Mae Gweinidogion Cymru a’r Alban wedi ailadrodd eu galwad i ddiogelu merched sydd wedi mudo i’r Deyrnas Unedig rhag trais sy’n seiliedig ar rywedd.
Daw eu galwadau ar ôl i’r Swyddfa Gartref gyhoeddi cadarnhad rhannol o Gonfensiwn Istanbwl.
Yn unol â’r Confensiwn, mae’n rhaid i’r llofnodwyr gymryd camau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod, ond mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod cynnwys Erthygl 59, sy’n diogelu merched sy’n mudo.
Mewn llythyr ar y cyd, mae Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, a Christine McKelvie, Gweinidog Cydraddoldebau’r Alban, yn galw ar Weinidog Diogelu’r Deyrnas Unedig i “wneud y peth iawn ar ran merched sy’n mudo” drwy gynnwys Erthygl 59.
“Hoffem gymryd y cyfle hwn i ail-adrodd siom Llywodraethau’r Alban a Chymru gyda’r penderfyniad, ac rydyn yn eich annog i wneud y peth iawn ar ran merched sy’n mudo a sicrhau eu bod nhw’n cael cynnig yr un warchodaeth â menywod eraill yn y wlad hon,” meddai’r llythyr.
“Rhan allweddol o Gonfensiwn Istanbwl ydy’r gofyniad ar Wladwriaethau i ddarparu eu polisïau heb wahaniaethu o unrhyw fath ac rydyn ni’n eich annog chi i gymryd y gofyniad hwn o ddifrif.”
‘Trafod datrysiad’
Ychwanega’r ddwy eu bod nhw’n deall bod safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Erthygl 59 dan “adolygiad yn dibynnu ar ganlyniadau a dadansoddiad rhaglen Cefnogaeth i Ddioddefwyr sy’n Fudwyr, a fydd yn dod i ben yr haf hwn”.
“Os nad ydych chi’n fodlon dadwneud eich penderfyniad nawr, byddwn yn awgrymu ein bod ni’n cael cyfle i ddod i gytundeb polisi sy’n gweithio i’r holl genhedloedd wedi i’r peilot [Cefnogaeth i Ddioddefwyr sy’n Fudwyr] ddod i ben,” meddai’r llythyr.
“Rydyn ni’n deall bod rhoi’r cadarnhad yn hawl sy’n perthyn i Weinidogion y Deyrnas Unedig, fodd bynnag mae gan y Cytundeb oblygiadau i feysydd datganoledig a byddem yn hoffi trafod sut i ddatrys hyn.
“Rydyn ni’n deall bod eich swyddogion wedi cytuno i gyfarfod gyda swyddogion cyfatebol yng Nghymru a’r Alban i drafod yn yr hydref.
“Mae hi’n bwysig bod y swyddogion yn trafod datrysiad i’n pryderon yn ystod y cyfarfod, yn hytrach na chynnig diweddariad ar ddarganfyddiadau’r adolygiad yn unig.”