Yn dilyn pryderon tebyg gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae Plaid Cymru hefyd wedi mynegi pryderon am ddiffyg ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y Blaid, “dydi Cymru ddim yn cael ei chraffu’n llawn”.

Yn dilyn lansiad swyddogol Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig ar Orffennaf 21, mae e wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn mynegi “nifer o glychau larwm” yn sgil datganiad agoriadol cadeirydd yr ymchwiliad.

Mae e wedi mynegi pryder ynghylch diffyg persbectif penodol i Gymru i fodiwlau 1 a 3, a’r “oedi” i’r elfen Gymreig o Fodiwl 2.

Ddydd Iau diwethaf (Gorffennaf 21), cyhoeddodd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig dri modiwl o’r ymchwiliad, fydd yn archwilio:

  • Modiwl 1: gwytnwch a pharodrwydd y Deyrnas Unedig
  • Modiwl 2: llywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a gwneud penderfyniadau (y Deyrnas Unedig)
  • Modiwl 2A: Yr Alban
  • Modiwl 2B: Cymru
  • Modiwl 2C: Gogledd Iwerddon
  • Modiwl 3: effaith Covid-19 ar systemau gofal iechyd, cleifion, staff ac ysbytai.

Yn y gorffennol mae’r Prif Weinidog wedi datgan ei ddisgwyliad i’r ymchwiliad roi’r darlun “gorau y gall o brofiad teuluoedd, cleifion, staff yma yng Nghymru yn ystod y pandemig”.

Ond does gan fodiwl 3, sy’n archwilio’r effaith i gleifion a staff, ddim elfen benodol Gymreig iddo.

‘Mae’n rhaid i ni gael atebion’

“Fe wnaeth y datganiad agoriadol gan Gadeirydd Ymchwiliad y Deyrnas Unedig achosi cryn dipyn o gonsyrn ac rwy’n gofyn am eglurhad gan y Prif Weinidog ar ddau bwynt pwysig,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Rwyf am wybod pam nad oes safbwynt Cymreig penodol i bob un o’r tri modiwl ymchwiliad a pham ei bod yn ymddangos bod oedi cyn codi cwestiynau penodol ynglŷn â Chymru mewn perthynas â’r ail fodiwl.

“Dylid craffu ar benderfyniadau sydd wedi’u gwneud yng Nghymru yng Nghymru, ond o ystyried y cwmpas cul a amlinellir yn natganiad agoriadol Cadeirydd y Deyrnas Unedig – pan mai dim ond un modiwl allan o dri fydd â ffocws Cymreig – mae amheuaeth o ddifrif am hyn.

“Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi mynnu os na fydd Cymru’n cael ei harchwilio’n llawn, yna bydd angen i ni gael ymchwiliad penodol i Gymru.

“Byddwn i a’r miloedd o deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru sydd am gael atebion yn edrych ymlaen yn fawr at ei ymateb.

“Ac mae’n rhaid i ni gael atebion.”

Jane Dodds

Galw o’r newydd am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru

Dim ond un adran o dair yr ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan fydd yn rhoi sylw i Gymru