Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr Eisteddfod er mwyn cofio’r diweddar Aled Roberts.
Fe fydd y digwyddiad yn talu teyrnged i Gomisiynydd y Gymraeg rhwng 2019 a 2022, a fu farw ym mis Chwefror, a’i waith dros y Gymraeg ac yn benodol ym myd addysg.
Roedd yn angerddol dros ddatblygu sgiliau Cymraeg pobol ifanc a rhoi’r cyfle iddyn nhw wneud yn fawr o’u dwyieithrwydd, ac felly dyna fydd testun y drafodaeth banel.
Fe fydd y digwyddiad ar Faes y Brifwyl ddydd Llun (Awst 1) yn gyfle i drafod addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â chofio a dathlu cyfraniad Aled Roberts.
‘Cydnabod ei waith’
Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda theyrnged bersonol gan Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg.
“Rwy’n falch ein bod ni yn gallu cynnal yr achlysur hwn i gofio Aled, ei waith fel Comisiynydd a’i gyfraniad pwysig y tu hwnt i hynny hefyd, i’w gymuned ac mewn cymaint o feysydd gan gynnwys byd addysg,” meddai.
“Fel cynghorydd yn y Rhos, fel arweinydd Cyngor Wrecsam, fel llywodraethwr ysgol, fel Aelod Cynulliad, ac wedyn fel Comisiynydd, roedd gallu’r gyfundrefn addysg i greu siaradwyr Cymraeg yn ganolog i’w weledigaeth.
“Wrth feddwl am y ffordd orau i gofio amdano a’r hyn fyddai ei ddymuniad o, roedden ni yn awyddus i ddefnyddio’r cyfle hwn i gydnabod ei waith ac i roi sylw i faes sydd mor bwysig wrth greu’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg.”
‘Cyfraniad arbennig at y Gymraeg’
Fel rhan o’r digwyddiad, bydd ffilm arbennig yn cael ei dangos o blant chweched dosbarth Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth yn sôn am bwysigrwydd yr iaith iddyn nhw yn eu haddysg a thu allan i’r ysgol.
Bydd y ffilm yn gosod y cyd-destun cyn i banel o arbenigwyr drafod addysg ôl-16, dan gadeiryddiaeth y ddarlledwraig Sara Gibson.
Bydd Nia Goode, Llywydd Cenedlaethol UCAC; Angharad Mai Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd Adnoddau Dysgu a Sgiliau Grŵp Llandrillo Menai; a Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Bro Myrddin yn ymuno â Gwenith Price ar y panel.
“Mae’n fraint cael cymryd rhan yn y digwyddiad hwn a fydd yn trin a thrafod pwnc a oedd yn bwysig i Aled Roberts a chael amser i’w gofio fo a’i gyfraniad arbennig at y Gymraeg,” meddai Nia Goode.
“Roedd ymroddiad Aled i addysg Gymraeg yn sylweddol, a heb os mae ei gyfraniad wedi cryfhau’r gyfundrefn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
“Rydw i’n edrych ymlaen at drafod pwysigrwydd y chweched dosbarth yn y cyd-destun hwn, ac i ystyried sut gellid cryfhau cyfraniad ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i’r nod o greu siaradwyr Cymraeg hyderus.”
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym mhabell Cymdeithasau 2 am 3:30 brynhawn dydd Llun, Awst 1, ac mae croeso i bawb.