Mae gwleidyddion sy’n cynrychioli Ynys Môn wedi mynegi eu “siom” ynghylch y newyddion fod banc arall ar y stryd fawr sy’n cynnig “gwasanaeth hanfodol” i drigolion yr ynys yn cau ei ddrysau.
Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, a Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol yr ynys, wedi ymateb i’r cyhoeddiad y bydd y gangen yn Stryd Boston yn cau ar Ionawr 23 y flwyddyn nesaf, gyda’r gangen ym Mhwllheli hefyd yn cau yr un diwrnod.
Dywed Rhun ap Iorwerth ei fod e’n “siomedig iawn” fod yna “ergyd arall” i Gaergybi.
Yn ôl Virginia Crosbie, mae’n “newyddion siomedig” ac mae cau banciau mewn etholaethau gwledig “yn bwrw cymunedau’n galetach” nag ardaloedd eraill oherwydd pellteroedd, trafnidiaeth a materion yn ymwneud â band llydan.
“Rydan ni wedi gweld gormod o fanciau’n troi eu cefnau ar Ynys Môn dros y blynyddoedd,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Bydda i rŵan yn cyfarfod swyddogion banc Lloyds i drafod y mater ymhellach.
“Bydda i’n pwysleisio cryfder y teimladau yn dilyn y cyhoeddiad hwn – does bosib fod yna ffyrdd mwy arloesol o sicrhau bod banciau’n aros ar agor yn ein cymunedau?
“Mi rydw i wedi galw arnyn nhw i gydweithio yn y gorffennol i ddod â’u gwasanaethau o dan un to, er enghraifft.
“Mae cael bancio wyneb yn wyneb yn hanfodol i nifer.
“Mae o’n fater dw i wedi’i grybwyll dro ar ôl tro, banciau mawr jyst yn troi eu cefnau ar gymunedau gwledig fel Ynys Môn.
“Fedrwn ni ddim dibynnu arnyn nhw, a dw i’n gefnogol iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu menter newydd Banc Cambria.”
Dywed ei fod hefyd yn ceisio gwybodaeth ynghylch pam y byddai cymorth gan fanciwr cymunedol, sydd wedi’i hysbysebu ar y wefan, ond ar gael am gyfnod byr yn unig.
“Dw i’n ofni nad ydi hynny’n fawr o gysur,” meddai.
‘Dydi’r tuedd ddim yn mynd i newid’
“Mae angen i ni gael y gallu fod y sawl sydd angen bancio mewn person yn gallu gwneud hynny, a hoffwn i weld banciau’n dechrau edrych ar gydweithio er mwyn rhannu safleoedd a gwasanaethau fel nad ydi pobol sydd eisiau ymweld â changen yn y cnawd yn cael eu cosbi,” meddai Virginia Crosbie.
“Mewn rhannau eraill o Gymru, mae cwsmeriaid yn medru siarad efo cynrychiolwyr o’u banc mewn Banciau Cymunedol unwaith y mis, a hoffwn weld a fyddai hyn yn medru digwydd ar Ynys Môn.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn bwriadu ei wneud yn ofyniad cyfreithiol fod banciau’n cynnig cyfleusterau gollwng a chodi arian i gwsmeriaid o fewn pellter penodol yn y Bil Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol sydd i ddod.
“Mae hwn yn syniad da, ond byddai angen ystyried pellteroedd gwledig yn hytrach na’r rheiny y mae pobol sy’n byw mewn trefi’n gyfarwydd â nhw.
“Fodd bynnag, rhaid i ni i gyd dderbyn nad yw cwsmeriaid yn defnyddio canghennau banciau yn y niferoedd yr oedden nhw’n arfer gwneud, a bod nifer bellach yn bancio ar-lein.
“Dydi’r tuedd hwn ddim yn mynd i newid.
“Pan fydd yn digwydd a bod banciau’n cau, mae’n hanfodol fod gennym ni addysg a chefnogaeth i gwsmeriaid gael symud ar-lein.”