Mae cangen o fudiad Conradh na Gaeilge yn dweud y gallai llanast Brexit fod yn fantais dros dro i ieithoedd Celtaidd, ond eu bod nhw’n gofidio y gallai hawliau ieithyddol gael eu taflu ar ben “coelcerth” Liz Truss.

Does dim cadarnhad gan Liz Truss, sy’n brwydro yn erbyn Rishi Sunak i fod yn arweinydd nesa’r Blaid Geidwadol ac yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, a fydd hi’n cynnwys Siartr Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop, a gafodd ei mabwysiadu yn y Deyrnas Unedig yn 2001, ar ei “Choelcerth Cwangos”.

“Dydy hi ddim wedi manylu ar hynny eto,” meddai Cumann Uí Chléirigh, sy’n trydar gan ddefnyddio’r handlen @BrooklynGaelic, wrth golwg360.

“Wrth gwrs, mae yna bryder am bob agwedd ar hawliau dynol.

“Mae cyflwyno Brexit wedi cael ei amharu mewn cynifer o ffyrdd fel ei bod hi’n bosib fod ei ganlyniadau llawn wedi cael eu gohirio.

“Gallai hyn, mewn gwirionedd, fod o fudd dros dro i ieithoedd Celtaidd!”

Ar hyn o bryd, meddai, does dim dal beth fydd yn cyfrannu at benderfyniad Liz Truss i gynnal neu ddileu hawliau ieithyddol, ond mae’n dweud bod y rhwydwaith o ieithoedd lleiafrifol yn cadw llygad barcud arni.

“Rydyn ni wedi gweld mudiad llafar yn gwrthwynebu Protocol Gogledd Iwerddon,” meddai.

“Mae rhai yn y mudiad hwnnw wedi ei gysylltu’n agos â gwrthwynebiad i Ddeddf Iaith Wyddeleg [Bil Hunaniaeth a Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022].

“Hyd yn hyn, fe fu erthyglau blog, posteri ralïau a hyd yn oed areithiau mewn ralïau yn cyfeirio at ddeddfwriaeth iaith Wyddeleg.

“Mae’n anodd gwybod beth sy’n cyfrannu at wleidyddiaeth Ms Truss, ac a yw hi’n agored i dderbyn y fath rethreg.

“Bydd siaradwyr Gwyddeleg yn gwylio’r trafodaethau yn Nhŷ’r Cyffredin ar y Bil Hunaniaeth ac Iaith yn agos iawn yr hydref hwn.”

Gwarchod hawliau yn y cyfamser

Beth, felly, sydd angen ei wneud yn y cyfamser i warchod hawliau ieithyddol?

“Mae angen i gymunedau ac ymgyrchwyr tros ieithoedd lleiafrifol barhau i addysgu yn erbyn camwybodaeth o ran hawliau ieithyddol, o ymyrraeth ddychmygedig yn erbyn siaradwyr Saesneg i gostau sy’n cael eu gorbwysleisio.

“Buddsoddiad yw diwylliant.

“Hefyd, mae angen i ni gefnogi a dysgu oddi wrth ein gilydd.

“Ní neart go cur le chéile!  Mewn undod mae nerth!”