Wrth i fanciau bwyd gael trafferth cwrdd â’r galw, mae un o arweinwyr crefyddol Cymru’n galw ar bobol i gynyddu eu cyfraniadau.

Mewn galwad i’w chyd-Gristnogion, dywed y Parchedig Beti-Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymru, fod “perygl gwirioneddol y bydd pobol yn cael eu troi i ffwrdd o fanciau bwyd am fod y silffoedd yn wag”.

Mae’r galw am nwyddau’n cynyddu a chostau byw yn arwain at lai o gyfraniadau, meddai.

Ychydig wythnosau’n ôl, dywedodd banc bwyd Arfon wrth golwg360 eu bod nhw’n brin o bob math o eitemau wrth i’r galw gynyddu ac wrth i lai o bobol allu cyfrannu at y banc.

“Mae pryder arbennig am y cyfnod presennol sef y gwyliau ysgol,” meddai’r Parchedig Beti–Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli aelodau mewn 350 o gapeli yng Nghymru.

“Yn ystod y tymor byddai plant rhan amlaf yn cael un pryd bwyd maethlon bob dydd yn yr ysgol. Ac mae’n ardderchog bod cytundeb wedi ei wneud yn Senedd Cymru i ddarparu bwyd ysgol yn rhad ac am ddim i bob disgybl cynradd, gan ddechrau ym mis Medi.

“Ond yn y cyfamser, fe fydd mwy a mwy o deuluoedd yn gorfod troi at y banciau bwyd, gan gynnwys pobol sydd mewn swyddi â chyflogau isel.

“Wrth i filiau ynni gynyddu mae’r banciau bwyd yn brysurach nag erioed, ac wrth i gostau byw effeithio ar bawb, mae sicrhau llif cyson o roddion bwyd ac arian i’r banciau yn mynd yn fwy anodd.

“Mae fy apêl at fy ngyd-Gristnogion yn syml. Sef geiriau Iesu: ‘Bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi. Yn gymaint ag ichi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain … i mi y gwnaethoch.’”

Banc bwyd

Banc bwyd yn brin o eitemau wrth i’r galw gynyddu yn sgil yr argyfwng costau byw

Elin Wyn Owen

Yn ôl Banc Bwyd Arfon, maen nhw’n brin o bob math o eitemau wrth i’r galw gynyddu ac wrth i lai o bobol allu cyfrannu