Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni.
Mae 248 parc a man gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.
Yn eu plith mae ystod amrywiol o safleoedd, o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.
Bellach yn ei thrydydd degawd, mae gwobr ryngwladol y Faner Werdd yn arwydd fod gan barc neu fan gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n rhagorol a bod ganddo gyfleusterau gwych i ymwelwyr.
Mae gan Gymru dros draean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y Deyrnas Unedig, sydd yn cael eu cynnal a’u cadw a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.
Mae amrywiaeth o fannau gwyrdd wedi cyflawni Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf, gan gynnwys Ynys Tysilio, Ynys Môn a Golchdy Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd.
‘Hanfodol i’n cysylltu ni â byd natur’
“Mae gan ein mannau gwyrdd lleol yn chwarae rhan hanfodol i gysylltu ni â byd natur,” meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.
“Mae’r gwobrau hyn yn profi bod parciau ac ardaloedd tebyg Cymru yn gwneud gwaith gwych yn darparu lleoedd o safon i ymlacio a mwynhau.
“Mae’r safon sy’n ofynnol i ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly rwyf am longyfarch pob un o’r safleoedd a gydnabyddir am ddarparu cyfleusterau rhagorol trwy gydol y flwyddyn i bobol leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
“Mae’n wych gweld ein bod ni’n dal i ddal mwy na thraean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y Deyrnas Unedig yng Nghymru – yn enwedig gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ein dysgu ni i gyd pa mor bwysig yw natur a mannau gwyrdd i’n lles meddyliol a chorfforol.”
Llongyfarchiadau
Caiff rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru ei chyflwyno gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.
“Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau,” meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus.
“Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru
Mae Cadwch Gymru’n Daclus bob amser yn chwilio am fannau newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd.
Os hoffech roi eich parc neu fan gwyrdd chi ar y map ac i weld rhestr o’r enillwyr, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru am fwy o wybodaeth.