Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Mark Drakeford o “gamarwain y Senedd” yn sgil sylw am streiciau’r rheilffordd.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd yr wythnos ddiwethaf bod staff trenau Cymru wedi cael eu symud o Gymru i redeg gwasanaethau cyfyngedig yn Lloegr yn ystod y streiciau.

Fodd bynnag, mae Network Rail yn dweud na ddigwyddodd y fath beth.

Ysgrifennodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, at y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf yn ei annog i gywiro’r record, gan ddweud ei fod yn poeni bod yn sylw yn “anghywir”.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Mark Drakeford: “Mae Network Rail wedi symud rhai o’u staff, a fyddai wedi bod ar gael i redeg trenau yng Nghymru, er mwyn cadw trenau’n rhedeg yn Lloegr”.

Ond yn ôl Network Rail Cymru a’r Gororau, “ni chafodd yr un o staff Network Rail eu symud o Gymru i Loegr yn ystod y gweithredu diwydiannol hwn”.

‘Gosodwr safonau gonestrwydd’

Wrth ymateb i lythyr y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Mark Drakeford na fyddai’n cywiro’r record, ond dywedodd ei fod wedi derbyn llythyr gan Network Rail sy’n rhoi mwy o fanylion am yr hyn ddigwyddodd, gan gynnwys cadarnhad na chafodd yr un o’u gweithwyr eu symud.

“I rywun sy’n hoffi cyflwyno ei hun fel gosodwr safon gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth, mae Mark Drakeford yn gwyro ymhell oddi wrth hynny,” meddai Andrew RT Davies wrth ymateb.

“Dw i wedi gorfod sgrifennu ato ddwywaith yn yr ychydig fisoedd diwethaf yn ei annog i gywiro’r record ar ôl iddo gamhysbysu’r Senedd, ond eto mae e wedi ailddweud hyn er bod Network Rail wedi dweud wrtho’n glir be ddigwyddodd.

“Roedd miloedd o bobol dros Gymru’n methu â theithio i’w gwaith ac i’w harholiadau’r wythnos ddiwethaf, a golygydd hyn, o bosib, bod rhai ohonyn nhw’n dioddef yn ariannol ar adeg pan mae costau byw yn cynyddu. Yn hytrach na chreu rhaniadau, dylai’r Prif Weinidog sicrhau bod pobol yn gallu cyrraedd eu swyddi a’u harholiadau.

“Does yna neb yn berffaith, ond wrth gael y cyfle i gywiro camgymeriadau mae’n siom bod y Prif Weinidog Llafur wedi penderfynu gwadu hyn yn wyneb y ffeithiau. Dyw hi ddim rhy hwyr iddo newid ei feddwl.”

‘Gwneud pethau’n waeth’

Yn ei lythyr yn ymateb i Andrew RT Davies, dywedodd Mark Drakeford: “Gadewch i mi gadarnhau’r hyn ddywedais yng nghyfarfod llawn y Senedd: Mae strategaeth Network Rail ar gyfer ymdopi â streic y rheilffyrdd yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar linellau yn Lloegr.

“Er na wnaeth staff Trafnidiaeth Cymru streicio’r wythnos [ddiwethaf], mae darparu amserlen Trafnidiaeth Cymru, yn ymarferol, yn dibynnu ar y blaenoriaethau mae Network Rail yn penderfynu arnyn nhw. Maen nhw wedi penderfynu mai dim ond un daith flaenoriaeth sydd yng Nghymru i gyd.

“Dw i wedi derbyn llythyr gan Network Rail sy’n rhoi mwy o fanylion am eu gweithredoedd dros yr wythnos, gan gynnwys gwybodaeth na chafodd dim o’u staff eu symud [yr wythnos ddiwethaf].

“Trwy gydol yr wythnos, mae’r cyhoedd yng Nghymru wedi cael eu hamharu gan streic sy’n digwydd tu allan i Gymru, yn bennaf. Mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn sefyll yn llonydd, ac yn llwyddo i wneud pethau’n waeth i bobol Cymru.”