Cafodd rhai pobol oedd yn gobeithio gweld seremoni Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eu “siomi” ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn (Mehefin 25).

Yn sgil y tywydd, bu’n rhaid cynnal y seremoni dan do yn neuadd Ysgol Eifionydd yn y dref, ac roedd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi rhybuddio o flaen llaw bod llefydd yn gyfyngedig.

Ond, yn ôl dwy oedd yn gobeithio cael mynd mewn i weld y seremoni, roedd yna “ddiffyg cyfathrebu” yno, ac roedd y trefniadau yn “amhroffesiynol”.

Mae’r Eisteddfod wedi dweud eu bod nhw wedi gorfod gwneud y penderfyniad i gynnal y seremoni tu mewn er mwyn sicrhau diogelwch pawb, a bod yna swyddogion tu allan i’r ysgol yn cynghori pobl nad oedd sicrwydd y byddai lle i bawb.

Yn ôl Tegwen Parry o Benrhyndeudraeth, buodd hi a “llwyth o bobol eraill” yn ciwio yng nghoridorau Ysgol Eifionydd am tua hanner awr cyn cael gwybod bod dim lle iddyn nhw yn y neuadd.

“Roedden ni tu allan i’r ysgol am hir iawn, doedd yna ddim trefn o gwbl, efo llwyth o bobol eraill. Aethon ni mewn i’r ysgol i giwio i fynd i’r neuadd, lle’r oedd y seremoni am gael ei chynnal,” meddai Tegwen Parry wrth golwg360.

“Roedden ni’n ciwio a dyma nhw’n dweud wrthym ni ar ôl ryw hanner awr: ‘Sori, does yna ddim lle i chi, dim ond pobol efo tocynnau’.

“Fe wnes i weld ffrind oedd wedi cyrraedd yr ysgol efo’i blant bach, ac roedden nhw wedi bod yn aros yn y stryd am bron i ddwy awr yn aros am [yr orymdaith] heb gael gwybod bod o wedi symud, ac yn disgwyl iddo fo ddŵad achos bod hi’n braf [ar y pryd]. Roedden nhw wedi rhoi o ar Radio Cymru a Facebook, ond roedd y bobol allan yn barod yn aros am yr Orsedd.

“Roedd yna ddiffyg cyfathrebu, ac roedd yna ddiffyg Plan B. Mae’n siŵr bod nhw’n rhoi pethau mewn lle os ydy hi’n bwrw, ond dydy’r ysgol ddim yn dal llawer.

“Dw i’n meddwl mai be oedd wedi ypsetio pobol Porthmadog fwyaf oedd bod y siopau i gyd wedi mynd i lot o drafferth i addurno’i ffenestri a bod yna neb wedi’i gweld nhw’n diwedd. Y teimlad oeddwn i’n ei gael gan bobol Porthmadog, hefyd, oedd bod Port yn prysur gael ei Saesnigo a’r iaith mewn perygl ac oedden nhw’n meddwl bysa hwnna’n rhywbeth fysa wedi dod â Chymreictod a’r teimlad o gymuned yn ôl. Roedd o’n siomedig fwy na dim byd arall.”

‘Amhroffesiynol’

Dywedodd un arall, sydd ddim am gael ei henwi, oedd yn gobeithio cael mynd i weld y seremoni, eu bod nhw wedi gadael y ciw ar ôl tua hanner awr, cyn i’r swyddogion ddod allan i ddweud bod y neuadd yn llawn.

“Roedden ni yna mewn digon o bryd, ac roedden ni wedi clywed ar raglen Tudur Owen bod yr orymdaith wedi cael ei dileu, bod nhw’n mynd i fod mewn yn Ysgol Eifionydd,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yna lot fawr o bobol tu allan, roedden ni’n meddwl bod nhw heb agor y drysau. Roedden ni gam wrth gam yn mynd mewn nes cyrraedd y coridor, a llond lle o bobol. Doedd yna neb yn dod i ddweud dim byd wrthym ni, a phobol yn troi rownd a mynd oddi yno. Erbyn deall, roedd y neuadd yn llawn.

“Ddaeth yna’r un enaid allan i ddweud wrthym ni fod y neuadd yn llawn. Fuon ni yna am tua hanner awr hwyrach, ond doedd yna neb yn dod atom ni i ddweud – dyna oedd y peth.

“Amhroffesiynol oeddwn i’n ei weld o, bod yna neb o staff yr Eisteddfod, staff cyflogedig… pam na fysa nhw’n dod allan a sefyll yna, bod yn ddewr a dweud: ‘Mae hi’n wir ddrwg gennym ni ond mae’r neuadd yn llawn’?”

‘Sicrhau diogelwch’

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi amddiffyn y cwynion, gan ddweud: “Roedd stiwardiaid a swyddogion y tu allan i’r ysgol yn cynghori pobl nad oedd sicrwydd y byddai lle i bawb, a nodwyd pan nad oedd lle ychwanegol ar gael.

“Roedd yr Eisteddfod hefyd wedi cysylltu gyda’r Wasg a’r cyfryngau ar ran yr Orsedd, ynghyd â chyhoeddi nifer o negeseuon ar draws ein cyfryngau cymdeithasol i adael i bobl wybod bod y trefniadau wedi gorfod newid oherwydd y glaw yn y bore a’r rhagolygon ar gyfer y prynhawn, a drodd i mewn i gawodydd trymion yn ystod y Seremoni.

“Roedd yn rhaid sicrhau diogelwch pawb a dyna pam y cymerwyd y penderfyniad i gynnal y digwyddiad yn yr ysgol.”