Mae Undeb Addysg Genedlaethol (NEU) Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar system gategoreiddio ysgolion.
Bydd y drefn o osod ysgolion Cymru mewn categorïau lliw yn cael ei dileu’n barhaol, meddai Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles.
Cafodd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ei hatal yn ystod y pandemig, a ni fydd yn ailddechrau. Bydd “system hunanwerthuso” yn cael ei chyflwyno yn lle.
Cafodd y categorïau lliw eu cyflwyno yn 2014, mae’r broses wedi derbyn beirniadaeth am labelu ysgolion ac annog cystadleuaeth.
Roedd ysgolion yn cael eu clustnodi’n wyrdd, melyn, oren neu goch yn uno â faint o gymorth oedd ei hangen arnyn nhw.
“Bydd aelodau NEU Cymru yn falch o weld diwedd y system Gategoreiddio Genedlaethol,” meddai Ysgrifennydd Cymru Undeb Addysg Genedlaethol Cymru, David Evans.
“Mae’r system ddi-fudd hon wedi arwain at ddiwylliant o ofn yn y system addysg yma yng Nghymru.
“Mae ysgolion angen cymorth sy’n cyd-fynd yn well â’u hanghenion, a gobeithio bydd y system hunanasesu yn eu helpu nhw i adnabod lle mae angen y cymorth.”
Dan y fframwaith newydd, a gafodd ei chyhoeddi heddiw (Mehefin 27), bydd arolygiadau Estyn yn cael eu cynnal yn fwy rheolaidd.
“Rydyn ni’n siomedig gyda’r penderfyniad i barhau i gynyddu arolygiadau Estyn, a bydd ein haelodau’n poeni,” meddai David Evans.
‘Dim digon o amser’
Mae undeb NEU Cymru yn poeni nad oes digon o amser cyn diwedd y tymor i athrawon allu ystyried y canllawiau newydd i gyd.
“Mae yna lot i ysgolion ei ystyried yn y canllawiau hyn,” meddai wrth ddweud bod ambell gam cadarnhaol yno.
Fodd bynnag, “rydyn ni’n pryderu bod y canllawiau hyn yn dod ar adeg pan mae ysgolion yn cael eu gorlwytho â gwaith”, meddai.
“Mae Covid ar gynnydd eto, ac mae’n cael effaith wirioneddol ar ysgolion.
“Er ei bod hi’n ddefnyddiol bod y canllawiau wedi cael eu cyhoeddi, does yna ddim digon o amser cyn diwedd y tymor i weithwyr addysg ganolbwyntio ar hyn, pan maen nhw angen blaenoriaethu plant a’u haddysg.”
‘Cefnogi pob dysgwr’
Wrth lansio’r fframwaith newydd, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Drwy roi’r lle canolog i ddysgwyr yn ein camau diwygio, fe fyddwn ni’n cefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei lawn botensial.
“Mae asesu ac atebolrwydd yn hanfodol i godi safonau – ond mae gan y naill a’r llall rôl wahanol iawn i’w chwarae – mae asesu’n ymwneud â deall anghenion disgybl unigol ac mae atebolrwydd yn ymwneud â sut mae perfformiad cyffredinol yr ysgol yn cael ei werthuso. Ond mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau wedi mynd yn aneglur, a hynny’n gallu cael effaith andwyol ar yr addysgu a’r dysgu.
“Drwy ddod â chategoreiddio cenedlaethol i ben, rydyn ni’n gwneud dau beth. Yn gyntaf, gosod fframwaith yn lle’r hen system sy’n nodi disgwyliadau clir fel bod pob disgybl yn cael ei gefnogi’n briodol.
“Ac yn ail, darparu gwybodaeth well a mwy diweddar am gynlluniau gwella pob ysgol, fel bod y ffocws ar gynnydd dysgwyr yn hytrach nag ar y disgrifiad pennawd. Dw i’n hyderus y bydd y fframwaith hwn yn annog mwy o gydweithio rhwng ysgolion, a fydd yn helpu i gyrraedd safonau uchel a gwireddu uchelgais ar gyfer ein holl ddysgwyr, ac yn cefnogi eu lles.”
‘Croesawu’r cynlluniau’
Mae Estyn wedi croesawu’r newidiadau, gan ddweud bod cynnydd a lles dysgwyr yn “gwbl ganolog” i’w gwaith.
“Mae’r penderfyniad i symud oddi wrth werthuso ar sail pwyslais anghymesur ar nifer fach o fesurau perfformiad yn cael ei adlewyrchu yn ein dull newydd o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion,” meddai Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn.
“Fe fyddwn ni’n parhau i arolygu ysgolion a phennu dyfarniadau ar sail ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth, gan edrych ar holl weithgarwch yr ysgol. Rydyn ni yma i sicrhau atebolrwydd pob darparwr addysg yng Nghymru, ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio’n galed i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr addysg a’r hyfforddiant y mae’n ei haeddu – gan fonitro ysgolion drwy waith dilynol os nad yw’r safonau’n ddigon uchel.
“Rydyn ni wedi gwneud nifer o newidiadau i’n dull o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu heb raddau crynodol, ond sy’n cynnwys trosolwg allweddol o ganfyddiadau sy’n canolbwyntio ar gryfderau ysgol a meysydd i’w datblygu. Rydyn ni’n hyderus y bydd hyn yn cynnig mewnwelediad ystyrlon a fydd yn helpu darparwyr i wella heb dynnu sylw at ddyfarniad.”