Roedd yna gryn dipyn mwy o ddiddordeb ym mhennod neithiwr o Question Time nag sydd wedi bod ers tro.

Mae niferoedd gwylio’r rhaglen wedi bod yn gostwng ers rhai blynyddoedd bellach, ond roedd yna wir fwrlwm ynglŷn â phennod neithiwr a chryn drafod ar y cyfryngau cymdeithasol.

Beth oedd yn gyfrifol am y cynnydd mewn diddordeb, felly? Y ffaith fod Mick Lynch ar y panel.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi gwneud dipyn o enw iddo’i hun dros y diwrnodau diwethaf wrth i streic y rheilffyrdd ddwysau.

Cyflwynwyr, newyddiadurwyr, gwleidyddion… does neb wedi bod yn saff rhag ei resymeg glir a chymedrol, a’i ymatebion ffraeth i gwestiynau digon dwl.

Richard Madeley

Dechreuodd y cyfan gyda Richard Madeley ar Good Morning Britain, a awgrymodd fod Mick Lynch yn gomiwnydd.

“Ydych chi’n Farcsydd? Oherwydd os ydych chi’n Farcsydd, yna rydych chi eisiau chwyldro a dinistrio cyfalafiaeth,” holodd Richard Madeley.

Atebodd Mick Lynch: “Rydych chi yn gofyn y cwestiynau mwyaf rhyfeddol weithiau, mae’n rhaid i mi ddweud.

“Mae dechrau cyfweliad gyda chwestiwn fel yna yn nonsens.”

Kay Burley

Ffawd debyg oedd yn disgwyl cyflwynydd Sky News, Kay Burley.

Y tro hwn, awgrymodd Kay Burley y byddai’r streic yn arwain at wrthdaro treisgar.

Gofynnodd dro ar ôl tro i Mick Lynch beth fyddai’n digwydd pe bai gweithwyr asiantaeth a gafodd eu penodi gan y llywodraeth yn ceisio croesi’r llinellau piced.

Chwarddodd Mick Lynch, a oedd yn sefyll o flaen rhes o bicedi RMT yng ngorsaf Euston, cyn dweud: “Byddwn yn gofyn iddynt beidio â mynd i’r gwaith.

“Beth ydych chi’n meddwl yr ydym yn mynd i’w wneud?”

Chris Philp

Yn ddiweddarach, wrth drafod y trafodaethau gafodd eu cynnal rhwng y Llywodraeth ac Undeb RMT, fe alwodd y Ceidwadwr Chris Philp yn “gelwyddgi”.

‘Cymdeithas ryfedd iawn’

A neithiwr, roedd ganddo eiriau cryf i’w dweud am Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig.

“Ei brif broblem yw nad yw’n teimlo embaras,” meddai ar Question Time.

“Waeth beth mae’n ei wneud, nid yw’n cael ei gywilyddio gan ei fethiannau, gan y ddelwedd y mae’n ei chynrychioli a chan ei ymddygiad.

“Ac mae wedi cael ei gefnogi yn hynny gan ei ffrindiau yn y sefydliad.

“Mae gennym gymdeithas ryfedd iawn lle mae’n cael cefnogaeth gan y wasg, yn cael ei gefnogi gan y cyfryngau, a’n cael ei gefnogi gan y Ddinas.

“A waeth beth mae’n ei wneud, waeth pa mor wael mae’n ymddwyn, gan gynnwys torri’r gyfraith, maen nhw’n gwrthod troi yn ei erbyn.”

‘Boris yn gwneud gwaith da’

Roedd yna ddigon o aelodau yn y gynulleidfa oedd yn barod amddiffyn Boris Johnson, serch hynny.

Doedd y rhain chwaith ddim yn saff oddi wrth Mick Lynch.

“Er gwaethaf ei holl ddiffygion, ac mae pob Prif Weinidog rydyn ni wedi’i gael wedi bod â digon o ddiffygion, rwy’n credu bod Boris yn gwneud gwaith da,” meddai un ddynes.

“Mae wedi ymdopi â’r pandemig, Brexit ac Wcráin, mae wedi dioddef â Covid.

“Rwy’n credu ei fod yn haeddu tipyn bach o deyrngarwch.”

Atebodd Mick Lynch drwy ddweud nad oedd yn credu “bod gallu dal Covid yn gymhwyster penodol”.

“Edrychwch ar Gymru”

Nid Mick Lynch oedd yr unig atyniad ar raglen neithiwr, yn enwedig oes ydych chi’n dod o Gymru.

Roedd Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Torfaen a llefarydd Masnach Ryngwladol yr wrthblaid, hefyd ar y panel.

Roedd yn llawn clod i Lywodraeth Cymru pan ofynnwyd iddo sut y byddai Llafur yn mynd i’r afael â’r streic.

“Os ydych chi eisiau gwybod beth fyddai Llafur yn ei wneud, peidiwch edrych dim pellach na Chymru, lle mae Llafur mewn grym,” meddai.

“Yr hyn mae Llafur wedi’i wneud yng Nghymru yw datblygu partneriaeth gymdeithasol, cael undebau llafur a chyflogwyr o gwmpas y bwrdd a datrys materion.

“Mae Llywodraeth Cymru yn Llywodraeth weithredol sy’n dod â phobol at ei gilydd i atal streiciau.”

Chwyddiant

Un arall o Gymru oedd ar y panel yw Anne Boden, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Starling Bank sydd yn dod o Abertawe’n wreiddiol.

Buodd hi’n rhybuddio Banc Lloegr nad yw codi cyfraddau llog yn debygol o “ddatrys chwyddiant”.

Mae chwyddiant yn 9.1% y flwyddyn yma yn y Deyrnas Unedig – y gyfradd uchaf ers 40 mlynedd.

Ac mae Banc Lloegr wedi rhybuddio y gallai gyrraedd 11% o fewn misoedd, wrth i brisiau tanwydd, ynni a bwyd roi pwysau ar bobol gyffredinol.

Mae’r economi hefyd yn gwegian, gyda rhai sylwebwyr economaidd yn awgrymu bod y Deyrnas Unedig mewn perygl o ddirwasgiad.

“Mae angen i ni ddeall o le mae’r cynnydd mewn costau byw yn dod,” meddai.

“Mae pobol yn sôn am spiral cyflogau, dw i ddim y meddwl fod chwyddiant yn cael ei achosi gan gynnydd mewn cyflogau.

“Ar hyn o bryd, mae 80% o chwyddiant yn cael ei achosi gan ynni, tanwydd a bwyd.

“Mae 20% yn dod gan broblemau yn y gadwyn gyflenwi a’r ffaith fod nifer o bobol heb ailymuno â’r gweithlu ar ôl y pandemig.

“Felly wneith Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog ddim datrys chwyddiant.

“Yr hyn rydyn ni wir ei angen ar hyn o bryd yw ymdrech ar y cyd i ddatrys problemau’r gadwyn gyflenwi.”