Mae Aer Lingus, cwmni awyr yn Iwerddon, yn dweud nad yw’r dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio ar hyn o bryd yn adnabod enwau sy’n cynnwys acenion Gwyddeleg.

Roedden nhw’n ymateb i neges ar Twitter gan Ciara Ní Mhurchú, sy’n dweud ei bod hi’n “hollol warthus” nad ydyn nhw’n “derbyn y fada”, sef yr acen uwchben llefariaid yn yr iaith Wyddeleg.

Wrth ddisgrifio’r sefyllfa, ychwanegodd, “Náireach amach is amach” (embaras llwyr).

Mewn llun gyda’r neges, mae’r sgrîn yn dangos ffurflen ar-lein Aer Lingus, sy’n egluro mai “llythrennau, gofodau, collnodau a chysylltnodau yn unig all fod mewn Enw Teuluol”, gan ychwanegu bod “rhaid i enw ddechrau a gorffen gyda llythyren”.

Wrth ymateb i ymholiad arall gan Mandy Doherty, dywed y cwmni nad ydyn nhw chwaith yn derbyn enwau sydd yn cynnwys acenion Ffrangeg.

“Mae’r acen Ffrengig yr un fath â’r Fada.

“Yn anffodus, all y system ddim gweld unrhyw symbolau megis acenion, cysylltnodau na hyd yn oed gofodau rhwng enwau.

“Felly os oes gennych chi ofod neu gysylltnod yn eich enw, maen nhw’n cael eu dileu ac mae eich enwau’n cael eu cyfuno, yn anffodus.”

Yn ôl Michael Bauer, sydd hefyd wedi ymateb i’r ffrae ar Twitter, mae gan Aer Lingus systemau “o Oes y Cerrig”.