Mae pôl piniwn newydd Barn Cymru’n dangos bod 63% o bobol yng Nghymru’n credu y dylai Boris Johnson ymddiswyddo.
Mae hynny 5% yn uwch na’r pôl diwethaf, ac fe ddaw ar ôl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig oroesi pleidlais hyder ddechrau’r mis.
Cafodd y pôl ei gynnal gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac fe ddatgelodd mai “celwyddgi” (liar) yw’r gair mwyaf cyffredin sy’n cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at Boris Johnson, ac wedyn “idiot” a “buffoon“.
Wrth ymateb i gwestiwn tebyg am Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y geiriau mwyaf cyffredin oedd “Cymro”, “diflas” a “dibynadwy” (trustworthy).
Bwriad y pôl gan ITV Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru yw cynnig mewnwelediad i gredoau, agweddau a safbwyntiau pobol.
Cafodd 1,020 o bobol dros 16 oed eu holi rhwng Mehefin 12 ac 16.
Bwriadau pleidleisio
Ychydig iawn o newid sydd wedi bod ym mwriadau pleidleisio pobol yng Nghymru ers y pôl diwethaf ym mis Mawrth.
Mae gan Lafur flaenoriaeth o 15 pwynt dros y Ceidwadwyr, a byddai hynny’n golygu bod y Ceidwadwyr yn colli trwch y seddi wnaethon nhw eu hennill yn ystod etholiad cyffredinol 2019.
Ond bydd yr etholiad nesaf ar sail ffiniau newydd, gyda dim ond 32 o seddi ar gael yng Nghymru yn lle 40.
Dyma’r canrannau ar hyn o bryd:
- Llafur 41 %
- Ceidwadwyr 26%
- Plaid Cymru 16% (+3)
- Democratiaid Rhyddfrydol 7%
- Eraill 10% (-3%)
‘Dal i golli hyder y cyhoedd’
“Mae’r pôl yn dangos bod Boris Johnson yn dal i golli hyder y cyhoedd ac yn cael ei adael yn brwydro am ei ddyfodol gwleidyddol,” meddai Owain Phillips, gohebydd gwleidyddol ITV Cymru.
“Rydyn ni’n falch o gael cydweithio â Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, sydd unwaith eto wedi cynnig mewnwelediad gwerthfawr ac arbenigedd wrth ddehongli canlyniadau’r pôl.”
Yn ôl Dr Jac Larner o Adran Wleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, mae’r 63% sy’n credu y dylai Boris Johnson ymddiswyddo yn cynnwys 36% o gefnogwyr y Blaid Geidwadol, ac mae hynny’n “lle drwg iawn i arweinydd blaid fod”.
“Bydd Mark Drakeford lawer hapusach, gyda llawer o ymatebwyr yn cytuno ei fod e’n ddibynadwy, yn alluog ac yn bendant,” meddai.
“Unwaith eto, dydy’r rhifau ddim mor garedig i Boris Johnson, gyda dim ond 10% o ymatebwyr yn ei ystyried e’n ddibynadwy, a llai na chwarter yn ei gael e’n alluog.”