Mae ymrwymiad allweddol Llafur a Phlaid Cymru i sicrhau prydau bwyd am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru’n “gam enfawr ymlaen”, yn ôl un o Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd.

Mae’n un o ymrwymiadau’r cytundeb cydweithio yn y Senedd, ac fe fydd yn dod i rym ym mis Medi ar gyfer plant dosbarth derbyn yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol y wlad.

Bydd sicrhau cynnyrch lleol o safon uchel yn rhan o’r ymrwymiad.

Yn ôl Sioned Williams, llefarydd Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Plaid Cymru, bydd hyn yn mynd ymhell wrth fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.

“Mae hwn yn gam enfawr ymlaen yn ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, ac yn un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynifer o blant,” meddai.

“Roedd Prydau Ysgol am Ddim drwyddi draw ar gyfer plant ysgolion cynradd yn brif addewid etholiadol i Blaid Cymru yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ac yn un oedd yn flaenoriaeth gennym wrth helpu i ddatblygu’r Cytundeb Cydweithio.”

Argyfwng costau byw

Mae Sioned Williams yn galw am gefnogi awdurdodau lleol sydd heb ymrwymo i gynnig prydau am ddim hyd yn hyn, a hynny yn sgil yr argyfwng costau byw presennol.

“Tra fy mod i’n deall y bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn dechrau eu cyflwyno fis Medi yma, o ystyried effaith yr argyfwng costau byw ar deuluoedd, rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol nad ydyn nhw ar y trywydd iawn eto yn cael eu cefnogi i ymdrechu’n wirioneddol rhwng nawr a dechrau’r ysgol ym mis Medi, ac yn y misoedd sy’n dilyn wrth i’r polisi gael ei gyflwyno ar gyfer plant hŷn, fel bod prydau am ddim yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosib i gynifer o’n plant â phosib,” meddai.

“Gallai’r polisi hwn olygu’r gwahaniaeth rhwng plentyn yn llwgu neu beidio – dyna pa mor bwysig yw e.

“Mae ein diolch twymgalon yn mynd i’r rheiny sy’n gweithio yn yr awdurdodau lleol ledled Cymru – staff arlwyo, y rheiny sy’n dylifro ac yn cydlynu’r cyflwyno – wrth gydnabod pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n cael hyn yn iawn er lles ein plant.”