Dydy’r oedi fydd yn digwydd ar drenau yng Nghymru yr wythnos hon “ddim yn ddigon da”, yn ôl Jane Dodds.
Daw sylwadau arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar drothwy gweithredu diwydiannol, fydd yn gweld oedi i wasanaethau.
Mae hi’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatrys yr anghydfod drwy “ddod o amgylch y bwrdd negodi rŵan”.
Fydd dim trenau y tu allan i ardaloedd allanol Caerdydd a chymoedd y de heddiw (dydd Llun, Mehefin 21), dydd Mercher (Mehefin 23) na dydd Gwener (Mehefin 25), ac mae’n bosib y bydd rhagor o streiciau yn ystod yr haf a’r hydref.
Mae hyn o ganlyniad i anghydfod gyda gyrwyr trenau sy’n aelodau o undeb RMT, sy’n golygu nad oes gwasanaethau y tu allan i dde-ddwyrain Cymru a threnau’n gweithredu ar sail amserlen gyfyngedig.
Nid Trafnidiaeth Cymru sy’n rhan o’r anghydfod â’r undebau, ond mae’r ffrae rhwng yr undeb a Network Rail yn golygu y bydd effaith ar eu gwasanaethau, gan na fydd modd iddyn nhw redeg gwasanaethau ar isadeiledd Network Rail.
‘Cwbl anymarferol’
“Mae pobol ledled Cymru eisoes wedi profi anghyfleustra i’w bywydau o ganlyniad i flynyddoedd o wasanaethau rheilffordd gwael, gan ei gwneud hi’n anodd neu’n gwbl anymarferol i rai fynd i’r gwaith neu i apwyntiadau ysbyty,” meddai Jane Dodds.
“Mae wedi troi pobol eraill i ffwrdd rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn llwyr ar adeg pan ddylen ni fod yn ei annog.
“Yn syml iawn, dydy ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r bygythiad o weithredu diwydiannol ddim wedi bod yn ddigon da.
“Mae angen i’r Llywodraeth Geidwadol ddod o amgylch y bwrdd negodi rŵan, a’i ddatrys rŵan.
“Yr wythnos hon, datgelodd y Democratiaid Rhyddfrydol nad ydi Ysgrifennydd Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig, Grant Shapps, wedi cyfarfod efo penaethiaid undebau ers ymhell dros fis.
“Beth ar wyneb y ddaear mae o wedi bod yn ei wneud yr holl amser hyn?
“Dylai Grant Shapps gael ei ddiswyddo.
“Drwy atal trafodaethau, mae o’n euog o orfodi diflastod ar deithwyr a busnesau.
“Mae peidio â thrafferthu i osgoi argyfwng yn drosedd ddiswyddo mewn unrhyw weithle arall.
“Mae angen Ysgrifennydd Trafnidiaeth arnom sy’n gofalu am gymudwyr sy’n gweithio’n galed a phobol sy’n mynd ar eu gwyliau sy’n haeddu gwell.”