Wrth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fysiau ddirwyn i ben ddiwedd yr wythnos hon (dydd Gwener, Mehefin 24), mae ymgyrchwyr yn galw ar ddefnyddwyr gwasanaethau i sicrhau eu bod nhw’n codi’u lleisiau.

Yn ôl TAN Cymru, mae gwasanaethau’n annibynadwy, yn annigonol ac mae amserlenni’n anaddas, ond mae bysiau’n hanfodol yn enwedig lle nad oes gan rywun fynediad at gar neu i’r rheiny nad ydyn nhw eisiau defnyddio car gymaint.

Dywed TAN Cymru fod Llywodraeth eisiau creu un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn ledled Cymru, gan wneud bysiau’n fwy deniadol, yn fwy hygyrch ac wedi’u hintegreiddio’n well â dulliau eraill o deithio.

O’r de i’r gogledd

“Ers dadreoleiddio bysiau yn yr wythdegau, mae gwasanaethau bysiau ar y cyfan wedi methu â diwallu anghenion teithwyr,” meddai Paula Renzel, ymgyrchydd ffyrdd a hinsawdd TAN Cymru.

“Mae pobol ledled Cymru wedi adrodd ynghylch pa mor annibynadwy yw gwasanaethau bysiau yn eu hardaloedd.

“Mewn rhai llefydd megis Merthyr, mae gwasanaethau wedi cael eu torri, tra bod y rhai sy’n weddill yn aml yn dod i ben am 5 o’r gloch y nos ac mae anghyfleustra’n aml.

“Mewn llefydd eraill, megis rhwng Bangor a Bethesda, dydy’r bws yn aml ddim yn troi i fyny, neu’n methu â stopio wrth gael ei fflagio i lawr.

“Mae hyn yn annerbyniol a rhaid iddo newid am resymau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod nhw’n gosod pobol wrth galon eu cynigion.

“Dyna pam ei bod hi’n bwysig fod pobol yn ymateb i’r ymgynghoriad, ac yn dangos cefnogaeth i ddiwygiadau a fydd yn gwneud pethau’n well.”