Mae’r wasg yng Nghernyw yn annog pobol i fynd i wylio’r Manic Street Preachers dros benwythnos y Jiwbilî Platinwm fel ffordd o osgoi’r dathliadau.

Mae Cornwall Live wedi rhestru gweithgareddau posib i’w gwneud er mwyn dianc rhag y coch, glas a gwyn wrth i Frenhines Lloegr ddathlu 70 mlynedd ar yr orsedd, ac mae mynd i wylio’r band o’r Coed Duon ar y rhestr.

Maen nhw’n chwarae yn Scorrier House nos Sadwrn (Mehefin 4), yn un o’r nifer o wyliau cerddorol sy’n cael eu cynnal yng Nghernyw y penwythnos hwn.

Y ddwy brif weithgaredd sy’n cael eu hannog, fodd bynnag, yw canu ‘Trelawny’ ar dop eich llais, a honno’n anthem sy’n dathlu ysbryd gwrthryfelgar trigolion Cernyw.

Cafodd y gân ei chyfansoddi gan Robert Stephen Hawker, ond roedd e’n cyfeirio naill ai at Syr Jonathan Trelawny, Esgob Bryste oedd wedi’i garcharu yn Nhŵr Llundain yn 1688, neu ei dad-cu Syr John Trelawny, arweinydd brenhinol yng Nghernyw oedd wedi’i garcharu yn 1628.

Yn ail ar eu rhestr mae dysgu Cernyweg – er mwyn “colbio’r dyn (neu’r fatriarch 96 oed)” – ac maen nhw’n annog pobol i “hepgor Saesneg a threulio pedwar diwrnod y Jiwbilî yn dysgu Kernewek syml”, gan fod yr iaith yn cael adfywiad ar hyn o bryd diolch i wersi ar-lein.

I’r rhai sy’n hoffi gemau iaith, beth am ‘Kerdle’, sef fersiwn Gernyweg o Gairglo neu Wordle?

Beth fyddai ar restr Cymru, tybed?