Mae cyhoeddiad y Canghellor yn rhoi cyfle i deuluoedd sy’n delio gyda’r argyfwng costau “gael eu gwynt atynt”, yn ôl Achub y Plant.

Bydd miliynau o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn derbyn cefnogaeth o dros £1,000 eleni, sy’n cynnwys taliad costau byw gwerth £650, medd y Canghellor Rishi Sunak.

Daw hyn yn sgil cytundeb gwerth £15bn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu’r rhai ar incwm isel yn sgil yr argyfwng costau byw.

Yn ogystal, bydd taliadau ar wahân o £300 i aelwydydd pensiynwyr a £150 i unigolion sy’n derbyn budd-daliadau anabledd oherwydd eu bod yn fwy bregus wrth ymdopi gyda chostau byw cynyddol.

Ar ben hynny, bydd y gostyngiad mewn biliau ynni o fis Hydref ymlaen yn cael ei ddyblu o £200 i £400, ac ni fydd yn rhaid eu had-dalu.

‘Cyhoeddiad i’w groesawu’

“Mae’r cyhoeddiad heddiw i’w groesawu a bydd yn rhoi cyfle i nifer o deuluoedd sy’n ei chael yn anodd i ddal deupen llinyn ynghyd ar hyn o bryd i gymryd saib o’r holl bryder a chaledi sy’n dod yn sgil yr argyfwng costau byw,” meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru.

“Mae’n becyn hael, ac mae’r Canghellor yn amlwg wedi gwrando ar yr amodau hollol annerbyniol y mae pobol wedi bod yn eu hwynebu.

“Rydym yn gwybod bod rhieni wedi bod yn mynd heb fwyd er mwyn i’w plant allu bwyta, bod prydau bwyd poeth yn brin, eu bod yn diffodd y golau i arbed trydan ac yn gwylio’r mesurydd pob dydd.

“Mae cyfle nawr am saib. Mae’r taliad unigol o £650 yn mynd i leihau’r bwrdwn ar y teuluoedd incwm isel.

“Bydd hyn, ynghyd â’r mesurau eraill, yn golygu bod y rhai sydd angen cymorth fwyaf yn derbyn £100 yn fwy y mis.

“Mae’r penderfyniad yma yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall mai’r ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi y rhai sy’n ei chael hi anoddaf gyda chostau byw yw drwy nawdd cymdeithasol.

“Dyma’r llwybr iawn i’w ddilyn, a gobeithio mai hyn fydd y dechrau ar ddadwneud blynyddoedd o doriadau i nawdd cymdeithasol, a lleihau y nifer o blant sy’n byw mewn tlodi.”

 

Aelwydydd incwm isel yn y Deyrnas Unedig i dderbyn cymorth o dros £1,000

“Rydym ni’n cyhoeddi treth dros dro ac wedi ei dargedu ar yr enillion sylweddol mae’r diwydiant olew a nwy yn ei wneud”