Mae un o’r ysbytai maes a ddaeth yn symbol o’r ymateb cynnar i’r pandemig Covid-19 ym Mae Abertawe’n cael ei ddigomisiynu.

Cafodd Ysbyty Maes Stiwdios y Bae, oddi ar Ffordd Fabian, ei sefydlu’n gyflym ochr yn ochr ag Ysbyty Maes Llandarcy ychydig filltiroedd i’r dwyrain.

Cafodd rhesi o gwlâu eu gosod, ynghyd â gofod swyddfa, cysylltiadau digidol, goleuadau a gwresogyddion, fel rhan o brosiect gwerth £18m.

Ond doedd dim angen gwlâu aciwt i drin cleifion Covid ar y safle, a chafodd y cyfleuster yn Llandarcy ei ddigomisiynu wedi ton gynta’r pandemig.

Parhau i gael ei ddefnyddio wnaeth Ysbyty Maes Stiwdios y Bae, ac mae wedi’i ddefnyddio ers hynny fel canolfan frechu a phrofion gwaed, uned i gleifion allanol a sawl peth arall.

Adeilad yn dirywio

Mae’n rhan o safle Stiwdios y Bae, ac fe fydd les yr ysbyty maes yn dod i ben ar Orffennaf 31.

Mewn cyfarfod, clywodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fod adeilad yr ysbyty maes yn dirywio ac nad oes unrhyw reswm bellach dros ei gadw.

Yn ôl Darren Griffiths, cyfarwyddwr cyllid a pherfformiad y bwrdd iechyd, mae costau cynnal yr adeilad wedi cyrraedd £350,000 y mis.

Ond fe dalodd e deyrnged i “gyfraniad anhygoel” y sawl oedd wedi ei sefydlu ac a fu’n gweithio yno.

“Rydym mewn trafodaethau gyda’r landlord i ddeall beth fydd natur yr ymadael,” meddai.

Gofynnodd Reena Owen, aelod annibynnol o’r bwrdd, am drefniadau profion gwaed o ystyried bod nifer o bobol yn falch o allu parcio a chael profion gwaed yno.

Dywedodd Darren Griffiths fod cynlluniau ar y gweill ar gyfer gwasanaethau profion gwaed amgen yng Ngorseinon, Abertawe a Chastell-nedd, a bod “rhai cynlluniau’n nes at ddwyn ffrwyth nag eraill”.

Yn ôl Emma Woollett, cadeirydd y bwrdd iechyd, mae sicrhau’r gwasanaethau profion gwaed priodol yn bwysig.

Fis Ebrill y llynedd, dywedodd Roy Thomas, perchennog y stiwdios, na fyddai’n rhaid talu rhent am yr 16 mis cyntaf y byddai’r ysbyty maes ar y safle, a’i fod e a’r bwrdd iechyd wedi dod i drefniant “masnachol rhesymol” ar gyfer y cyfnod ar ôl yr 16 mis.

Roedd yr ysbyty maes yn adeilad Elba’r Stiwdios, oedd yn arfer cael ei ddefnyddio i wneud cydrannau ceir a faniau Ford ac fel gweithfeydd dur a thunplat.