Mae’r Urdd wedi agor swyddfa yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Mae Canolfan S4C ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn un o nifer o denantiaid ar y safle, sy’n gartref i nifer o gwmnïau ym maes cynhyrchu, dylunio a chyfieithu.

Mae swyddfa newydd yr Urdd yn gartref i dîm Urdd Myrddin a hefyd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o staff ac adrannau’r mudiad o draws y rhanbarth gan gynnwys adran yr Eisteddfod a Chwaraeon, ac yn fan cyfarfod defnyddiol  i swyddogion celfyddydol Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro.

Ers iddyn nhw agor swyddfa yn Yr Egin, mae’r Urdd wedi llwyddo i wneud y defnydd mwyaf o’r cyfleusterau sydd gan y ganolfan i’w gynnig sy’n cynnwys cysylltedd cyflym, ffrydio proffesiynol a chyfleon i gydweithio.

‘Cyfle i gydweithio’n agosach’

“Rydym yn falch o fod wedi agor swyddfa newydd yng nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin,” meddai’r prif weithredwr Siân Lewis.

“Dyma gyfle i’n staff i gydweithio’n agosach gyda’r holl gwmnïau a sefydliadau sydd ar safle’r Egin gan obeithio cynnal gweithgareddau amrywiol ar y cyd a manteisio ar y defnydd o adnoddau modern ac arloesol yr adeilad.

“Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r bartneriaeth a chryfhau ein darpariaeth a chyfleoedd i blant a phobol ifanc i’r dyfodol.”

Yn wir, mae hyn eisoes ar waith.

Cafodd gweithdy Effeithiau Sain i Ffilm hynod lwyddiannus ac arddangosfa gelf eu cynnal, ac fe fydd twrnament FIFA ar ddiwedd y gwyliau haf.

Wrth i Sir Gaerfyrddin edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf, a pharatoadau ar gyfer y cystadlu a pherfformiadau ar waith ar hyd a lled y sir, mi fydd y swyddfa yn Yr Egin siwr o brysuro eto.

“Mae’n newyddion arbennig medru croesawu‘r Urdd i’r Egin, maent yn atodiad gwych i’r gymuned greadigol sy’n gweithio yma eisoes,” meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin.

“Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r mudiad yn eu cenhadaeth i gynnig cyfleon yn y Gymraeg i blant a phobol ifanc sy’n cydfynd yn llwyr gyda gweledigaeth Yr Egin i godi statws y Gymraeg a’i diwylliant yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos mewn modd cyhoeddus, cyfoes a chyffrous.”