Bydd miliynau o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn derbyn cefnogaeth o dros £1,000 eleni, sy’n cynnwys taliad costau byw gwerth £650, medd y Canghellor Rishi Sunak.

Daw hyn yn sgil cytundeb gwerth £15bn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu’r rhai ar incwm isel yn sgil yr argyfwng costau byw.

Yn ogystal, bydd taliadau ar wahân o £300 i aelwydydd pensiynwyr a £150 i unigolion sy’n derbyn budd-daliadau anabledd oherwydd eu bod yn fwy bregus wrth ymdopi gyda chostau byw cynyddol.

Ar ben hynny, bydd y gostyngiad mewn biliau ynni o fis Hydref ymlaen yn cael ei ddyblu o £200 i £400, ac ni fydd yn rhaid eu had-dalu.

“Er mwyn rheoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol, mae’n rhaid i ni godi arian er mwyn talu am y mesurau hyn,” meddai Rishi Sunak.

“O ganlyniad, rydym ni’n cyhoeddi treth dros dro ac wedi ei dargedu ar yr enillion sylweddol mae’r diwydiant olew a nwy yn ei wneud yn sgil prisiau olew a nwy uchel iawn.”

Bydd y “mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i leihau’r pwysau ar filoedd o bobl ar draws Cymru”, yn ôl Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Mae’n dangos, fel y gwnaethom ni drwy gydol y pandemig, y byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn bywoliaeth pobl ac adeiladu economi gryfach ar gyfer y Deyrnas Unedig,” meddai.

Fodd bynnag, dyw’r cyhoeddiad ddim “yn mynd yn ddigon pell”, medd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

“Er ein bod yn croesawu’r newid yma mewn polisi a’r cymorth ychwanegol i bobol ar incwm is, nid yw’r mesurau yma yn mynd yn ddigon pell,” meddai.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i amddiffyn pobl yng Nghymru rhag yr argyfwng costau byw, a galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy.

‘Cefnogi pobol weithgar Cymru’

“Unwaith eto, mae’n amlwg bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn parhau i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio’n galed yng Nghymru drwy ddarparu cyfanswm o £37 biliwn o gefnogaeth ledled y Deyrnas Unedig hyd yn hyn eleni,” meddai Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig.

“Tra bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn cefnogi pobol weithgar Cymru, mae Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn parhau i ddangos eu gwir flaenoriaethau drwy geisio plesio eu partneriaid clymblaid genedlaetholgar a gwthio am gynlluniau i gynyddu nifer y gwleidyddion yn y Senedd.

“Nid dyma’r hyn sydd ei angen ar bobol Cymru.

“Ddoe, dywedodd Gweinidog Cyllid Llafur wrthym nad yw 44% syfrdanol o gynghorau yng Nghymru wedi dechrau cyflwyno’r ad-daliad treth flaenorol a ddarparwyd o ganlyniad i gyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae angen i Weinidogion Llafur stopio trafod costau byw cynyddol a gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod y cymorth hwn yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosibl.”

“Sgam”

Fodd bynnag, “sgam” yw’r cwbl yn ol Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae’r Canghellor yn taro teuluoedd gyda chynnydd treth o £800 eleni, sy’n mwy na dileu’r hyn a gyhoeddodd heddiw,” meddai.

“Mae’n sgam gan Ganghellor sy’n addo eich helpu ond yn cymryd oddi wrthych pan nad ydych chi’n edrych.

“Mae chwyddiant a chodiadau treth dinistriol wedi achosi trafferthion ariannol i deuluoedd nad oeddent erioed wedi breuddwydio y byddent yn ei chael hi’n anodd talu’r biliau.

“Mae cyfraddau tlodi uchel Cymru yn debygol o waethygu.

“Er bod y Canghellor wedi gwrthod cymryd unrhyw gamau dros y misoedd diwethaf, roedd chwyddiant mewn gwledydd fel Ffrainc yn cael ei gadw ar 4.8% diolch i gamau gweithredu’r Llywodraeth tra bod y Deyrnas Unedig wedi cynyddu i dros 9% neu 14% ar gyfer yr aelwydydd tlotaf.

“Mae angen i Rishi Sunak gael gwared ar ei godiadau treth yswiriant gwladol annheg a thorri Treth Aar Werth.

“Byddai hynny’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol ac yn rhoi hwb i economi Cymru.”

‘Tynnu cwningen allan o het’

Fodd bynnag, dyw cyhoeddiad y Canghellor yn ddim ond ymdrech i “gael y Prif Weinidog allan o helynt” drwy “dynnu cwningen allan o het”, yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Dywed ei bod yn dymuno bod y Llywodraeth yn “cymryd yr argyfwng costau byw fwy o ddifrif”.

“Pecyn hael”

Wrth ymateb, dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Mae’r cyhoeddiad heddiw i’w groesawu a bydd yn rhoi cyfle i nifer o deuluoedd sy’n ei chael yn anodd i ddal deupen llinyn ynghyd ar hyn o bryd i gymryd saib o’r holl bryder a chaledi sy’n dod yn sgil yr argyfwng costau byw.

“Mae’n becyn hael, ac mae’r Canghellor yn amlwg wedi gwrando ar yr amodau hollol annerbyniol y mae pobl wedi bod yn eu hwynebu.

“Rydym yn gwybod bod rhieni wedi bod yn mynd heb fwyd er mwyn i’w plant allu bwyta.

“Bod prydau bwyd poeth yn brin. Eu bod yn diffodd y golau i arbed trydan ac yn gwylio’r mesurydd pob dydd.

“Mae cyfle nawr am saib. Mae’r taliad unigol o £650 yn mynd i leihau’r bwrdwn ar y teuluoedd incwm isel.

“Bydd hyn, ynghyd â’r mesurau eraill yn golygu bod y rhai sydd angen cymorth fwyaf yn derbyn £100 yn fwy y mis.

“Mae’r penderfyniad yma yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall mai’r ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi y rhai sy’n ei chael hi anoddaf gyda chostau byw yw drwy nawdd cymdeithasol.

“Dyma’r llwybr iawn i’w ddilyn, a gobeithio mai hyn fydd y dechrau ar ddadwneud blynyddoedd o doriadau i nawdd cymdeithasol, a lleihau y nifer o blant sy’n byw mewn tlodi.”