Mae’r achos cyntaf o frech mwncïod wedi cael ei ddarganfod yng Nghymru.

Mae symptomau cychwynnol brech y mwncïod yn cynnwys cur pen, poen yn y cyhyrau a’r cefn, nodau lymff wedi chwyddo, teimlo’n oer a blinder eithafol.

Gallai brech ddatblygu, yn aml gan ddechrau ar yr wyneb, ac wedyn yn lledaenu i rannau eraill o’r corff gan gynnwys yr organau cenhedlu.

Mae’r frech yn mynd drwy wahanol gyfnodau a gall edrych fel brech yr ieir neu siffilis, cyn ffurfio crachen.

Fel arfer, dydy’r haint ddim yn lledaenu’n hawdd rhwng pobol.

Mae brech y mwncïod yn cael ei drosglwyddo drwy gael cysylltiad agos iawn â rhywun sydd wedi cael ei heintio ac sydd â symptomau.

Er hynny, dywed Llywodraeth Cymru fod “Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag asiantaethau iechyd y cyhoedd yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon i fonitro’r sefyllfa”.

“Heddiw cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod achos o frech y mwncïod wedi cael ei ganfod yng Nghymru,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’r unigolyn yn derbyn gofal a thriniaeth, ac mae’r gwaith o olrhain ei gysylltiadau yn mynd rhagddo.

“Mae brech y mwncïod yn haint sy’n cael ei achosi gan feirws, sy’n cael ei ganfod fel arfer yng Ngorllewin a Chanol Affrica. Mae achosion ohono wedi bod yn eithriadol o brin yn y Deyrnas Unedig.

“Serch hynny, nid yw’r ffaith bod achos wedi ei ganfod yng Nghymru yn annisgwyl o ystyried y sefyllfa sy’n datblygu yn y Deyrnas Unedig ac mewn nifer o wledydd o gwmpas y byd.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag asiantaethau iechyd y cyhoedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fonitro’r sefyllfa ac ymateb i achosion posibl o frech y mwncïod, ac achosion o’r haint sydd wedi cael eu cadarnhau.

“Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa hon fel y mae’n datblygu.”