Dydy hi ddim yn bosib credu’r un gair mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddweud, yn ôl un o Aelodau Seneddol Llafur Cymru.

Daw sylwadau Jo Stevens ar ôl i Downing Street gyfaddef mai nhw wnaeth awgrymu cyfarfod rhwng Boris Johnson a Sue Gray, gwas sifil sy’n arwain yr ymchwiliad i bartïon yn Rhif 10 yn ystod y cyfnodau clo.

Fore heddiw (dydd Llun, Mai 23), dywedodd un o weinidogion y Cabinet mai Sue Gray oedd wedi dechrau’r trefniadau ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

Fodd bynnag, mae llefarydd Boris Johnson yn dweud mai swyddogion Rhif 10 wnaeth awgrymu y dylid cyfarfod.

Y nod oedd trafod “amseru a phroses gyhoeddi’r adroddiad”, ac wrth egluro’r dryswch, dywedodd y llefarydd fod y “cais technegol” wedi dod gan swyddfa Sue Gray.

‘Dweud celwydd’

“Mae Boris Johnson a’i lywodraeth yn dweud celwydd. Drwy’r amser,” meddai Jo Stevens, yr Aelod Seneddol Llafur dros Ganol Caerdydd.

“Allwch chi ddim credu gair mae e na nhw’n ei ddweud.”

Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymddwyn mewn “ffydd wael” a “bod anonestrwydd yn rhan greiddiol o’u meddylfryd”, yn ôl Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd dros Flaenau Gwent.

“Am sefyllfa i’r Deyrnas Unedig,” meddai.

Yn y cyfamser, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw am ymddiswyddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

“Dywedodd Boris Johnson wrth y senedd nad oedd yna barti ym mis Tachwedd 2020,” meddai.

“Mae saith potel o alcohol a phaced o fisgedi yn adrodd stori wahanol.

“Rhaid iddo ddod i’r senedd i gywiro’r cofnod a chynnig ei ymddiswyddiad.”

Lluniau newydd

Yn y cyfamser, mae lluniau’n dangos Boris Johnson yn yfed yn Downing Street yn ystod parti gadael Lee Cain, ei gyfarwyddwr cyfathrebu, ar Dachwedd 13 2020 wedi cael eu rhyddhau gan ITV News.

Mae’r lluniau’n codi amheuon newydd ynghylch honiadau gan y Prif Weinidog nad oedd yn ymwybodol o unrhyw dorri rheolau yn Downing Street yn ystod y pandemig.

Ar y pryd, doedd y rheolau ddim ond yn caniatáu i ddau berson o wahanol aelwydydd gyfarfod, ac mae’r lluniau’n dangos wyth person a ffotograffydd.

Mae’r lluniau fel pe baen nhw’n dangos Boris Johnson yn rhoi araith a chodi gwydryn, ac wrth ei ymyl o mae yna ddwy botel o siampên neu Cava, pedair potel o win, a hanner potel o jin, yn ogystal â chwpanau papur, bisgedi a chreision.

Cafodd cyfnod clo llym ei gyflwyno yn Lloegr wyth niwrnod cyn i’r llun gael ei dynnu, a hynny yn sgil cynnydd mewn achosion Covid, ac roedd partïon â phobol o aelwydydd eraill yn anghyfreithlon.

Yn ôl llefarydd ar ran Downing Street, mae’r Swyddfa Gabinet a’r heddlu wedi cael mynediad at yr holl ddeunyddiau perthnasol fel rhan o’u hymchwiliad i partygate, gan gynnwys lluniau.

“Mae [Heddlu’r] Met wedi gorffen eu hymchwiliad a bydd Sue Gray yn cyhoeddi ei hadroddiad yn y dyddiau nesaf, a bryd hynny bydd y prif weinidog yn cyfarch y Senedd,” meddai.