Mae ymddiriedolaeth ysgol wedi cau eu holl gampysau heddiw (dydd Llun, Mai 23) am “resymau iechyd a diogelwch”, ar ôl i fachgen 11 oed golli ei fys wrth geisio “ffoi rhag bwlis” yn yr ysgol yn Abertyleri.

Cafodd bys Raheem Bailey ei dorri i ffwrdd ar ôl iddo gael ei frifo wrth geisio dianc yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri.

Dywedodd Shantal Bailey, mam y bachgen 11 oed, fod Raheem wedi bod yn wynebu “cam-drin hiliol a chorfforol”, a ddechreuodd pan ymunodd â’r ysgol uwchradd ym mis Medi.

“Ar ôl chwe awr o lawdriniaeth i’w achub, a oedd yn y pen draw yn aflwyddiannus, bu’n rhaid torri ei fys i ffwrdd,” meddai.

“O ddiwrnod y digwyddiad hyd at heddiw, nid yw Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi estyn allan ataf i holi amdano”.

Mewn datganiad ddoe (dydd Sul, Mai 22), dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y byddai pob campws yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ar gau heddiw (dydd Llun, Mai 23).

“Mae diogelwch a lles dysgwyr a staff yn parhau i fod yn hollbwysig i’r Gymuned Ddysgu a’r Awdurdod Lleol bob amser,” meddai’r datganiad.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent ddiweddariad hefyd ddydd Sadwrn, gyda’r uwcharolygydd Vicki Townsend yn dweud eu bod nhw’n “cefnogi ac yn ymgysylltu’n agos â theulu’r bachgen ifanc a gafodd anaf ddifrifol i’w law wrth adael tir yr ysgol yn dilyn yr ymosodiad yr adroddwyd amdano, o ganlyniad iddo’n cael ei ddal mewn ffens.

“Ers i ni dderbyn yr adroddiad hwn, ddydd Mercher 18 Mai, bu cryn ddiddordeb a sylw yn hyn.

“Byddwn yn annog pobol i feddwl am yr effaith y gallai eu negeseuon cyfryngau cymdeithasol a’u sylwebaeth ei chael ar y rhai yr effeithir arnynt, wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r ysgol ac mae swyddogion yn parhau i gynnal ymholiadau yn yr ardal.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “condemnio bwlio ac aflonyddu ar unrhyw ffurf, gan gynnwys unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu hiliol”.

“Rydym yn disgwyl i ysgolion ymchwilio’n llawn i honiadau a digwyddiadau o fwlio a hiliaeth, ac iddynt gymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r mater ac atal achosion pellach rhag digwydd,” meddai wedyn.

‘Empathi’

Wrth siarad â golwg360, dywed Natalie Jones, sy’n aelod o Gyngor Hil Cymru, fod angen i’r ysgol ddangos gwir empathi fel man cychwyn gyda’r ymchwiliad.

“Mae hi’n amlwg bod y bachgen ddim wedi teimlo’n saff yn yr ysgol a bod nhw ddim wedi cymryd ei les meddwl iechyd na’i iechyd corfforol o ddifri,” meddai.

“Dydyn nhw heb greu awyrgylch saff iddo.”

Mae Cyngor Hil Cymru nawr yn ysgrifennu llythyr agored i’r ysgol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles.

“Mae yna dal lot o waith i’w wneud oherwydd, yn anffodus, mae lot o bobol gwyn yn tueddu i feddwl os mae rhywbeth yn digwydd i blentyn, tydi o ddim yn rhywbeth i wneud efo dy hil,” meddai Natalie Jones wedyn.

“Yn enwedig os tydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw’n hiliol neu fod pobol eraill ddim dal yn hiliol, ac felly dydyn nhw ddim yn edrych ar bethau o esgidiau’r person sydd wedi cael ei gam-drin.

“Mae yna lot o waith i ddysgu pobol sut i fod yn wrth-hiliol ac nid jest eich bod chi ddim yn hiliol.

“Mae eisiau i ni gael mwy o allies i ddeall sut mae bywyd rhywun du neu frown yn cael ei effeithio gan hiliaeth bob dydd.

“Mae’n annerbyniol i feddwl fod plentyn yn gallu cael ei drin fel yna, ac felly rydan ni’n mynd i weithio gyda’r teulu a phwy bynnag sydd eisiau helpu ni fod yn allies hefyd – rydan ni eisiau clywed ganddyn nhw.”

‘Datganiad oeraidd’

Yn ôl Natalie Jones, roedd y datganiad gan yr ysgol yn oeraidd, heb ddangos cydymdeimlad nac empathi.

“Hyd yn oed os nad oedden nhw eisiau cyfaddef fod bai arnyn nhw, fysan nhw wedi gallu dweud ‘rydan ni’n gobeithio y bydd o’n well cyn bo hir’ ond wnaethon nhw ddim,” meddai.

“Fyswn i’n hoffi gweld empathi gan yr ysgol a chydymdeimlad, a mwy o waith yn cael ei wneud yn yr ysgolion.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Cefais fy syfrdanu a’m tristáu o glywed am y digwyddiad ym Mlaenau Gwent yr wythnos diwethaf, a arweiniodd at blentyn yn dioddef o anaf ddifrifol,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Mae’r ysgol a’r awdurdod lleol yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac mae Heddlu Gwent yn cymryd rhan ac yn cynnal ymchwiliad.

“Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad agos â’r awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent ers yr wythnos diwethaf, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw tra bo’r ymchwiliad yn parhau.

“Deallwn hefyd fod y plentyn a theulu’r plentyn yn cael eu cefnogi gan Heddlu Gwent.

“O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, cafodd plentyn ei anafu ac roedd arno ofn mawr am ei ddiogelwch.

“Bydd angen canlyniadau’r ymchwiliad gan Heddlu Gwent ac asiantaethau eraill er mwyn inni ddod i gasgliadau manwl am y digwyddiad, ac rwy’n cefnogi’r asiantaethau sy’n ymwneud â’r gwaith o ymgysylltu â’r plentyn a’i deulu.

“Dylai pob un o’n lleoliadau addysg yng Nghymru fod yn amgylcheddau cynhwysol a chyfeillgar – lle mae lles pawb yn cael ei ystyried, a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn ddiogel, yn cael eu derbyn, ac yn barod i ddysgu.

“Mae Llywodraeth Cymru yn condemnio bwlio ac aflonyddu ar unrhyw ffurf, gan gynnwys unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu hiliol.

“Rydym yn disgwyl i ysgolion ymchwilio’n llawn i honiadau a digwyddiadau o fwlio a hiliaeth, ac iddynt gymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r mater ac atal achosion pellach rhag digwydd.

“Mae cyfres o ganllawiau Llywodraeth Cymru, sef ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb’ yn darparu canllawiau statudol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, ac awdurdodau lleol, i helpu i fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu mewn lleoliadau addysg yng Nghymru, a’u hatal rhag digwydd.

“Un o nodau allweddol ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol yw gwella profiadau dysgwyr ac athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn ysgolion, drwy fabwysiadu ymagwedd gynhwysol a gwrth-hiliol at addysgu a phrofiad ysgol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod yr addysg, y cyfleoedd a’r canlyniadau i’n plant a’n pobol ifanc yng Nghymru yn deg, ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 – sy’n cynnwys system addysg wrth-hiliol.

“Fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, byddwn yn diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio statudol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru wirioneddol wrth-hiliol.

“Bydd y canllawiau diwygiedig ar gael ar gyfer ysgolion erbyn mis Medi 2022.

“Mae’n bwysig bod ein Cwricwlwm i Gymru yn adlewyrchu gwir amrywiaeth ein poblogaeth, a bod dysgwyr yn deall sut mae’r amrywiaeth honno wedi llunio’r Gymru fodern.

“Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau gorfodol i gynnwys addysgu hanes a phrofiadau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y cwricwlwm newydd.

“Wrth gefnogi plentyn i wneud cysylltiadau cryf â’i gartref a’i gymuned, a chroesawu profiadau’r gorffennol a’r presennol, dylai athrawon gefnogi dysgwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad o’r graddau y maent yn rhan o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a all eu hannog i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a mynd i’r afael â hiliaeth.

“Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfres o gyrsiau hyfforddiant i ysgolion, ymarferwyr a llywodraethwyr sy’n canolbwyntio ar wrth-fwlio, a ddarperir gan y Gynghrair Gwrth-fwlio a Kidscape.

“Byddwn yn annog pob ysgol i ymgymryd â’r hyfforddiant a’r dysgu hwn, er mwyn sicrhau y caiff pob math o achos o fwlio ac aflonyddu eu trin yn briodol.”

‘Taclo bwlio hiliol yn flaenoriaeth’

“Mae hwn yn amlwg yn achos difrifol iawn sydd nawr yn cael ei ymchwilio gan yr heddlu,” meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, wrth golwg360.

“Mae taclo bwlio hiliol yn flaenoriaeth i fi fel Comisiynydd Plant.

“Rydw i eisiau gweithio gyda sefydliadau eraill, cyrff cyhoeddus, ac ysgolion i archwilio’r materion ehangach sydd yn ymwneud â bwlio hiliol, a sut gallwn ni gydweithio i fynd i’r afael ag e.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae fy swyddfa wedi helpu i sicrhau bod canllawiau statudol newydd yn cynnwys cyfrifoldebau i fonitro mathau o fwlio, yn cynnwys os ydy hil yn ffactor.

“Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud y cyfrifoldebau yma’n gliriach i ysgolion a byddwn ni’n parhau i ddylanwadu ar y canllawiau yma fel bod strategaethau gwrth-fwlio yn effeithiol.

“Ddylai neb profi bwlio neu gamdriniaeth oherwydd eu hil, ac mae hwn yn ein hatgoffa ni fel cyrff cyhoeddus bod gyda ni ddyletswydd i fynd i’r afael â’r mater hirdymor yma.

“Mae’n rhaid bod Cymru yn lle diogel i bob plentyn.”