Mae gweithwyr iechyd Cymru angen codiad cyflog ar unwaith, yn ôl undeb Unsain Cymru.

Yn ôl yr undeb, mae gweithwyr yn dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth ac maen nhw angen codiad cyflog sy’n uwch na chwyddiant.

Mae Unsain Cymru wedi clywed gan weithwyr iechyd sy’n cael eu gorfodi i symud o’u cartrefi gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio talu rhent, yn ogystal â phobol sy’n gorfod dibynnu ar fanciau bwyd.

“Mae fy mhartner a finnau yn gweithio llawn amser i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ydyn nhw methu fforddio byw yn ein cartref presennol gan fod costau’n cynyddu tu hwnt i’n cyflogau,” meddai un gweithiwr iechyd wrthyn nhw.

Mae stiwardiaid yr undeb wedi clywed am staff y gwasanaeth iechyd yn mynd i’w gwaith yn llwglyd gan fod ffreuturau ysbytai wedi cau gyda’r nos a thros y penwythnosau.

O ganlyniad, mae’r undeb wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd dros y wlad yn galw am godi cyflog i weithwyr ar unwaith, yn ogystal â mynd i’r afael â phroblemau gyda phobol yn gweithio oriau ychwanegol heb gyflog ychwanegol.

Mae hyn yn angenrheidiol os yw’r gwasanaeth iechyd am ddenu staff â sgiliau uchel a dal eu gafael ar weithwyr.

‘Argyfwng’

Dywed Hugh McDyer, Pennaeth iechyd gydag Unsain Cymru, bod yna argyfwng yng ngweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Rydyn ni wir angen i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru chwarae ei ran i ddal gafael ar staff diwyd ac ymrwymedig, ond blinedig, y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru,” meddai.

“Mae pethau fel banciau bwyd a bwyd am ddim i weithwyr yn cynnig rhaff achub i’r gweithwyr hynny ond ni ddylen nhw fod yn hanfodol.

“Ni ddylai yna fyth fod sefyllfa lle mae staff yn dod i’w gwaith yn llwglyd gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio bwydo eu hunain.

“Rydyn ni angen sicrhau bod pawb yn cael eu talu’n deg am y swydd maen nhw’n ei gwneud a’r oriau maen nhw’n gweithio.”

Bydd yr undeb yn cynnal diwrnod o weithredu mewn byrddau iechyd dros Gymru ddydd Mercher (Mai 25) fel rhan o ymgyrch dros Brydain, ‘Put NHS Pay Right’.

‘Gwerthfawrogi eu gwaith’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae staff y GIG wedi gweithio’n ddiflino i ymateb i heriau’r pandemig ac yn parhau i ddarparu gofal sy’n achub bywydau ac yn newid bywydau pobl yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith ac yn gwerthfawrogi popeth a wnânt.

“Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi cynnydd o 3% ar gyfer gweithwyr y GIG yn unol ag argymhellion y corff adolygu cyflogau annibynnol; yn ogystal, gwnaed taliad ychwanegol o 1% heb ei gyfuno hefyd i’n Gweithwyr GIG ar y cyflogau isaf.

“Mae’r Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i’r cyrff adolygu cyflogau ystyried yr heriau gwirioneddol o ran costau byw wrth wneud eu hargymhellion eleni.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl gyda’r cynnydd digynsail yng nghostau byw. Ers mis Tachwedd, rydym wedi darparu pecyn cymorth gwerth £380m i helpu i ateb rhai o’r pwysau hyn, ar ben cynlluniau eraill i helpu i gadw arian ym mhocedi pobl.”