Mae yna wersi i’w dysgu gan y solidariaeth a gafodd ei dangos rhwng y gymuned LHDTC+ ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ystod streic 1984-5, yn ôl Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil Stonewall Cymru.
Bydd Iestyn Wyn yn ymuno â’r cyn-Aelod Seneddol Llafur Siân James mewn digwyddiad i ddathlu cyfraniad y mudiad ‘Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM)’ yng Nghaernarfon heno (nos Lun, Mai 23).
Erbyn diwedd y streic, roedd cangen y mudiad yn Llundain wedi codi £22,500 (cyfwerth â rhyw £70,000 heddiw) er mwyn cefnogi’r cymunedau a gafodd eu heffeithio gan raglen ddad-diwydiannu llywodraeth Margaret Thatcher.
Cafodd yr hanes ei gofnodi yn y ffilm Pride yn 2014, ac yn ôl Iestyn Wyn, mae’r hanes yn dangos sut y gall pobol sy’n ymgyrchu dros wahanol faterion ddod ynghyd dros achos penodol.
Yn ystod Streic y Glowyr, llwyddodd Siân James i helpu i fwydo dros 1,000 o deuluoedd yr wythnos, ac yn y sgwrs heno bydd hi’n codi cwr y llen ar yr hanes a’r cyd-destun cymdeithasol hanesyddol.
“Roedd hi’n rhan o’r ymgyrch yn ystod yr 80au, mae hi wedi bod yn ganolog i’r holl beth,” meddai Iestyn Wyn wrth golwg360.
“Dw i’n edrych ymlaen at rannu rhai hanesion efo hi o ran fy mhrofiad i efo ymgyrchu, ond yn fwy penodol, clywed ganddi hi ynglŷn â’r paralels â’r hyn oedd yn gyffredin rhwng be’ oedden nhw’n ymgyrchu drosto a’n brwydro yn ei erbyn yn yr 80au a be’ oedd yr LGSM yn Llundain ac ar draws Prydain yn brwydro yn ei erbyn, a be’ ddaeth â’r ddau grŵp annhebyg at ei gilydd.
“Dw i’n meddwl bod o’n hanes sydd mor agos o ran amser, ond hefyd yn gyffredin o ran mudiadau o bobol sy’n dal i ymgyrchu dros hawliau pobol yng Nghymru ac ar draws y byd.
“Fel arfer, mae pawb yn ymddwyn dros yr hyn maen nhw’n gredu ynddo yn eu ffyrdd eu hunain ac ar ben eu hunain.
“Ddim yn aml mae gen ti fudiadau a symudiadau yn dod at ei gilydd i weithio tuag at rywbeth cyffredin.
“Be’ dw i wedi’i ddysgu o ran y sgyrsiau efo Siân wrth baratoi at y sgwrs ydy’r hyn oedd yn dod â’r criwiau yna at ei gilydd, a pha mor annisgwyl oedd hynny bod gen ti griw yr LGSM yn fodlon estyn allan i gydweithio.
“Roedd yna dir cyffredin yn fan honno, a’r tir cyffredin ar y pryd oedd brwydro yn erbyn polisïau’r llywodraeth.”
‘Gwahaniaethau i un ochr’
Yn ôl Iestyn Wyn, mae yna arwyddocâd pellach i’r hanes gan ei fod yn dangos cymunedau’n dod ynghyd, yn cydfyw, ac yn dysgu gan ei gilydd.
“Mae’r elfen o solidariaeth yn gryf ac yn rhywbeth mae pobol ifanc o gwmpas oedran i efallai ddim yn credu bod hynna wedi gallu digwydd… a’r cysylltiad hefyd efo ardal o Gymru oedd ddim yn fetropolitan a’u bod nhw wedi cael croeso pan wnaethon nhw gyrraedd yna.”
Mae’n beth cyffredin gweld grwpiau o fewn mudiadau yn dod ynghyd, er enghraifft ymgyrchwyr hawliau dynol neu hawliau cydraddoldeb, meddai Iestyn Wyn.
Ond roedd y cyd-sefyll rhwng Undeb Cenedlaethol y Glowyr a LGSM yn mynd gam ymhellach.
“Mae gen ti bobol oedd yn brwydro dros hawliau LGBTQ+ yn estyn allan i bobol oedd yn brwydro rhywbeth cwbl wahanol ar arwyneb y peth, ond mewn gwirionedd roedd yna gysylltiadau,” meddai.
“A’r cysylltiadau hynny oedd pwy oedd mewn grym ar y pryd, a’r polisïau oedd yn cael eu gweinyddu a’u gweithredu oherwydd pwy oedd mewn pŵer.
“O’r hyn dw i wedi’i glywed gan Siân, mi roedd yna ychydig bach iawn o wrthwynebiad i dderbyn cefnogaeth gan LGSM, ond dim dyna oedd y prif beth, ond y tynnu coes a’r hwyl.
“Mae o’n dangos bod pobol, yn y bôn, yn barod i roi eu gwahaniaethau i un ochr er mwyn dod ynghyd a gweld pobol am bwy ydyn nhw.”
‘Amser perthnasol’
Dywed Osian Owen, sy’n trefnu’r digwyddiad ar ran Llety Arall, menter gymunedol yng Nghaernarfon, fod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar adeg arbennig o berthnasol.
“Ddydd Mercher (Mai 19), byddai Mark Ashton wedi dathlu ei ben-blwydd yn 62 oed. Roedd Mark yn un o gyd-sylfaenwyr grŵp LGSM. Yn anffodus bu farw 12 diwrnod ar ôl derbyn diagnosis o HIV/AIDS. Roedd yn ffigwr allweddol yn y bennod arbennig hon o hanes Prydain,” meddai.
“Yn ogystal â hynny, ar Fai 17, nodwyd Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Biffobia. Ar adegau mae’n anodd peidio â theimlo bod cymdeithas yn symud am yn ôl yn eu hagweddau tuag at y gymuned LHDT+.
“Mae ymchwil diweddar gan Stonewall yn datgelu fod un o bob pump o bobl LHDT wedi profi trosedd o gasineb oherwydd eu rhywioldeb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod dros hanner pobol draws wedi dioddef trosedd o gasineb oherwydd eu hunaniaeth ryweddol.
“Gobeithiwn y bydd y digwyddiad hwn yn ddathliad positif o’n hamrywiaeth, ac yn gyfle i ddathlu’r bennod arbennig hon yn hanes LHDT Cymru.”
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystafell ddigwyddiadau Llety Arall, Lle Arall am 7:30, ac mae mynediad yn cael ei gynnig ar sail “talwch be’ fedrwch / os fedrwch chi”, penderfyniad a gafodd ei wneud gan y trefnwyr mewn ymateb i’r argyfwng costau byw.