Mae Mick Antoniw a Jane Hutt wedi amlinellu elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig, gan rybuddio bod y system bresennol dan reolaeth San Steffan yn “cyfyngu’n sylweddol” ar fynediad at gyfiawnder.
Mae dogfen Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mai 24) yn amlinellu sut mae polisi cyfiawnder penodol i Gymru wedi bod yn datblygu fwyfwy, yn seiliedig ar ddulliau atal drwy fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu, yn hytrach na dull sy’n canolbwyntio ar gosbi.
Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, dywed y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt mai dim ond drwy ddull ataliol, cyfannol a chynhwysol y mae modd mynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol dros y pwysau sydd ar y system gyfiawnder.
Mae’r ddogfen yn dweud bod datganoli cyfiawnder i Gymru yn ‘anochel’, ac yn nodi elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig.
Gallai elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig gynnwys:
- Canolbwyntio ar atal ac adsefydlu
- Lleihau maint poblogaeth carchardai drwy fynd ar drywydd dewisiadau eraill yn lle carchar pan fo’n briodol, megis rhaglenni i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a chymorth gyda thriniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
- Mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau wrth ddeddfu a llunio polisïau, a mynd ati i ehangu’r gwaith o ymgorffori safonau hawliau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol mewn cyfraith ddomestig
Byddai’r elfennau hyn yn adeiladu’n sylweddol ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei gyflawni o fewn y cyfyngiadau cyfansoddiadol presennol.
Mae hyn yn cynnwys:
- buddsoddi £22m ychwanegol y flwyddyn i ariannu 600 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i atal troseddu
- darparu 13 o gyfleusterau gwrandawiadau llys o bell ledled Cymru ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- cynllun peilot Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
- buddsoddi yn y Gronfa Gynghori Sengl sydd wedi helpu 81,000 o bobol i ennill incwm ychwanegol o £32m ac i reoli dyledion gwerth dros £10m.
‘Ffyrdd arloesol o ddefnyddio pwerau’
“Yr unig ffordd gynaliadwy o wella’r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobol sy’n dod i gysylltiad â hi,” meddai Mick Antoniw.
“Mae ein dogfen yn nodi’r ffyrdd arloesol yr ydym yn defnyddio’r pwerau sydd gennym, gan gynnwys ymyrraeth gynnar i arwain pobol oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, a sut y byddem yn ceisio adeiladu ar hynny drwy system gyfiawnder gwbl ddatganoledig.
“Ond mae polisïau llywodraethau olynol y Deyrnas Unedig ers 2010 wedi cyfyngu’n sylweddol ar fynediad at gyfiawnder, bygwth hawliau ac amddiffyniadau sylfaenol, a thorri’r cyllid hanfodol.
“Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael inni i ddilyn dull system gyfan sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cyfiawnder.
“A byddwn yn edrych ymlaen at ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru fel y gallwn gyflymu’r gwaith hwn a darparu system well i ddinasyddion, cymunedau a busnesau ledled Cymru.”
‘Polisïau a phenderfyniadau i Gymru, yng Nghymru’
“Casgliad clir y Comisiwn Cyfiawnder annibynnol yn 2019 oedd bod angen i bolisïau a phenderfyniadau ynghylch cyfiawnder gael eu gwneud, a’u cyflawni, yng Nghymru, fel y gallant gael eu cysoni â’r polisïau a’r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, cyfiawnder cymdeithasol ac addysg sy’n unigryw ac yn datblygu yng Nghymru, a chorff cynyddol cyfraith Cymru,” meddai Jane Hutt.
“Drwy gysylltu’r system gyfiawnder â gweddill y broses o lunio polisïau yng Nghymru gallwn wir ganfod ffyrdd effeithiol o leihau troseddu.
“Mae ein gwaith ar y Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddau Menywod, a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn dangos yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd i ddatblygu gwasanaethau wedi’u teilwra yng nghyd-destun Cymru.
“Fel y mae, fodd bynnag, nid yw’r arbedion yr ydym yn eu gwneud ar gyfer llysoedd neu garchardai – er enghraifft pan fo Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn llwyddo i atal troseddu – yn cael eu hailfuddsoddi yng Nghymru.
“Rhaid i ddatganoli ddigwydd er mwyn gallu ailfuddsoddi’r holl arian hwn i ddiwallu anghenion brys Cymru.”
O ran cynlluniau i’r dyfodol ar gyfer diwygio cyfiawnder o fewn y cyfyngiadau presennol, cadarnhaodd y Gweinidogion y bydden nhw’n:
- Ystyried yr achos dros Fil Hawliau Dynol i Gymru
- Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cyfraith Cymru i wella cynaliadwyedd y sector cyfreithiol yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol
- Creu un system unedig sy’n annibynnol yn strwythurol ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru (fel yr argymhellwyd gan adroddiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021 ar dribiwnlysoedd datganoledig).