Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun deng mlynedd i gynyddu nifer y staff ysgol sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £1m ychwanegol eleni i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun, gan ddod â’r cyfanswm i £9m, gyda chynlluniau i gynyddu cyllid dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd £500,000 o’r cyllid newydd yn cael ei ddarparu i ysgolion unigol i helpu i gynyddu eu gweithlu sy’n siarad Cymraeg.
Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o gamau gweithredu, gan gynnwys:
- cefnogi graddedigion sy’n siarad Cymraeg sy’n astudio yn Lloegr i ddychwelyd i Gymru i baratoi i addysgu
- ehangu’r ystod o bynciau uwchradd sydd ar gael i bobl sydd mewn cyflogaeth ac sydd eisiau hyfforddi i addysgu
- darparu cymorth i israddedigion gael profiad o fod mewn ystafell ddosbarth, fel llwybr i addysgu
- peilota cynllun bwrsariaeth i gadw athrawon cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion uwchradd
- peilota lleoliadau cynorthwywyr addysgu i rai sy’n cymryd blwyddyn i ffwrdd ar ôl gadael yr ysgol.
Mae ymrwymiad i gyflwyno cynllun deng mlynedd yn rhan o’r rhaglen waith bresennol ar gyfer Cymraeg 2050, i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
Bydd y cynllun yn cael ei weithredu ochr yn ochr â Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol, i gynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yn cynnwys Iaith Athrawon Yfory, sy’n darparu cymhellion o hyd at £5,000 i fyfyrwyr hyfforddi i addysgu pynciau uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai gwersi Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhad ac am ddim i holl athrawon Cymru o fis Medi ymlaen.
Uchelgais sy’n “gofyn am newidiadau a chamau gweithredu pellgyrhaeddol”
“Mae ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gofyn am newidiadau a chamau gweithredu pellgyrhaeddol,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.
“Mae ein cwricwlwm newydd yn rhoi lle canolog i’r Gymraeg yn y broses ddysgu, ond mae cael gweithlu sydd â’r sgiliau addas yn hollbwysig.
“Yn ogystal â denu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r proffesiwn, rhaid inni fuddsoddi yn sgiliau ein gweithlu presennol, nid yn unig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond hefyd yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg.
“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i gyflawni’r cynllun hwn, a fydd yn gofyn am ymdrech ar y cyd gan y sector cyfan.
“Rydyn ni eisiau Cymru lle mae mwy o bobol yn siarad ac yn defnyddio ein hiaith yn eu bywydau bob dydd.
“Mae ein cynllun i gynyddu ein gweithlu addysg sy’n siarad Cymraeg yn gam allweddol tuag at gyflawni ein huchelgais.”