Mae clymblaid newydd am arwain Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar ôl i gynrychiolwyr o’r grŵp Annibynnol, Plaid Cymru ac Annibynwyr Dyffryn ddod i gytundeb i rannu grym.

Bydd aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn cefnogi’r glymblaid drwy gyfrwng cytundeb hyder a chyflenwi.

Y Cynghorydd Steve Hunt sydd wedi’i enwebu fel Arweinydd y Cyngor, a’r Dirprwy Arweinydd enwebedig yw’r Cynghorydd Alun Llewelyn.

Bydd y glymblaid a’r grwpiau sy’n ei chefnogi’n dal 33 sedd allan o 60.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl dros bythefnos o drafod rhwng y pleidiau ac mae’n dod â 26 mlynedd o weinyddiaeth gan y blaid Lafur i ben yn y fwrdeistref sirol.

‘Gweinyddiaeth newydd gyda blaenoriaethau newydd’

“Bydd hon yn weinyddiaeth newydd gyda blaenoriaethau newydd ar gyfer Castell-nedd Port Talbot,” meddai Alun Llewelyn.

“Rydym wedi cael sawl sgwrs gynhyrchiol dros y bythefnos ddiwethaf ac rydyn ni’n rhagweld fod llawer o dir cyffredin rhyngon ni ar sawl pwnc.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i adeiladu ymddiriedaeth a hyder yn ein cyngor drwy ymgysylltu mewn clymblaid llawn parch sy’n rhoi anghenion ein cymunedau gyntaf.”