Mae Mark Isherwood, Cwnsler Cyffredinol Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, yn cyhuddo Mark Drakeford o “foddio’i bartneriaid clymblaid cenedlaetholgar” ar ôl i Lywodraeth Cymru amlinellu eu cynlluniau i ddatganoli cyfiawnder i Gymru.

Mae Mick Antoniw a Jane Hutt wedi amlinellu elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig, gan rybuddio bod y system bresennol dan reolaeth San Steffan yn “cyfyngu’n sylweddol” ar fynediad at gyfiawnder.

Mae dogfen Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mai 24) yn amlinellu sut mae polisi cyfiawnder penodol i Gymru wedi bod yn datblygu fwyfwy, yn seiliedig ar ddulliau atal drwy fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu, yn hytrach na dull sy’n canolbwyntio ar gosbi.

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, dywed y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt mai dim ond drwy ddull ataliol, cyfannol a chynhwysol y mae modd mynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol dros y pwysau sydd ar y system gyfiawnder.

Mae’r ddogfen yn dweud bod datganoli cyfiawnder i Gymru yn ‘anochel’, ac yn nodi elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig.

Gallai elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig gynnwys:

  • Canolbwyntio ar atal ac adsefydlu
  • Lleihau maint poblogaeth carchardai drwy fynd ar drywydd dewisiadau eraill yn lle carchar pan fo’n briodol, megis rhaglenni i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a chymorth gyda thriniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
  • Mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau wrth ddeddfu a llunio polisïau, a mynd ati i ehangu’r gwaith o ymgorffori safonau hawliau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol mewn cyfraith ddomestig

Byddai’r elfennau hyn yn adeiladu’n sylweddol ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei gyflawni o fewn y cyfyngiadau cyfansoddiadol presennol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • buddsoddi £22m ychwanegol y flwyddyn i ariannu 600 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i atal troseddu
  • darparu 13 o gyfleusterau gwrandawiadau llys o bell ledled Cymru ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • cynllun peilot Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
  • buddsoddi yn y Gronfa Gynghori Sengl sydd wedi helpu 81,000 o bobol i ennill incwm ychwanegol o £32m ac i reoli dyledion gwerth dros £10m.

‘Cipio rhagor o rym’

Wrth ymateb, mae Mark Isherwood yn dweud bod “gweinidogion Llafur yn dangos bod eu blaenoriaethau allan o gysylltiad, yn cam-gynrychioli agenda bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gwir gost eu cynigion, ac yn ailadrodd methiant y ‘Comisiwn Annibynnol ar Gyfiawnder’ i gydnabod realiti anghyfleus y system gyfiawnder drawsffiniol dwyrain/gorllewin yng Nghymru”.

“Tra bod teuluoedd yn wynebu costau byw cynyddol a bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n cael ei ddinistrio gan weinidogion iechyd Llafur olynol, mae’r Prif Weinidog unwaith eto’n boddio’i bartneriaid clymblaid cenedlaetholgar.

“Mae angen i weinidogion ym Mae Caerdydd ganolbwyntio’u sylw ar faterion datganoledig yn hytrach na chipio rhagor o rym yng Nghymru.”

 

Llywodraeth Cymru’n amlinellu egwyddorion ar gyfer system gyfiawnder ddiwygiedig, ddatganoledig

“Yr unig ffordd gynaliadwy o wella’r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobl sy’n dod i gysylltiad â hi,” meddai’r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw