Mae angen i’r Ceidwadwyr Cymreig gondemnio “torcyfraith a chelwydd” Boris Johnson, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y blaid yn y Senedd, mae’r lluniau diweddaraf, sy’n dangos Boris Johnson yn yfed yn Downing Street ym mis Tachwedd 2020, yn “chwalu’r honiadau” ganddo nad oed yn ymwybodol o unrhyw dorri rheolau yno yn ystod y pandemig.
Ar y pryd, doedd y rheolau ddim ond yn caniatáu i ddau berson o wahanol aelwydydd gyfarfod, ac mae’r lluniau’n dangos wyth person a ffotograffydd.
“Mae’r lluniau yn chwalu honiadau’r Prif Weinidog nad oedd yn gwybod am unrhyw dorri rheolau yn ystod y cyfnod clo a bod y rheolau wedi cael eu dilyn drwy’r amser,” meddai Jane Dodds.
“Tra bod y cyhoedd wedi gwneud aberthon mawr, fe wnaeth e bartïo yn Rhif 10.
“Dydy’r cyhoedd ddim yn wirion. Roedden nhw’n deall yn berffaith fod y Prif Weinidog yn dweud celwydd wrthyn nhw.
“Yr unig bobol oedd yn ei gredu oedd gwleidyddion Ceidwadol.
“Mae hon yn adeg allweddol i Andrew RT Davies ac Aelodau Ceidwadol o’r Senedd yng Nghymru.
“Fe ddylen nhw gondemnio’r torcyfraith a chelwydd y Prif Weinidog, sydd ond yn edrych ar ôl ei hun.
“Dylai Aelodau Seneddol Ceidwadol yrru llythyrau o ddiffyg hyder os nad ydyn nhw eisiau gwneud tro gwael difrifol â’u hetholwyr.
“Mae hi’n hen bryd i’r Ceidwadwyr Cymreig stopio rhoi buddion eu plaid o flaen buddion y wlad.
“Gyda phob dydd y bydd Boris Johnson yn parhau yn ei swydd, bydd mwy yn cael ei wneud i niweidio ffydd y cyhoedd a’n democratiaeth.”
Galw am ymddiswyddiad
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.
“Dywedodd Boris Johnson wrth y senedd na chafwyd parti ym mis Tachwedd 2020,” meddai.
“Mae saith potel o alcohol a phaced o fisgedi yn dweud stori wahanol.
“Rhaid iddo ddod i’r senedd i gywiro’r record a chynnig ei ymddiswyddiad.”
‘Twyll bwriadol’
Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, yn dweud bod Boris Johnson wedi camarwain y Senedd hefyd.
“Fe wnaeth y Prif Weinidog godi gwydred wrth i’w staff yfed sawl potel o siampên.
“Gadewch i ni fod yn hael. Gadewch i ni gymryd ei fod e ond yno am ychydig funudau.
“Ond roedd e’n gwybod am y parti. Fe allai fod wedi’i stopio. Fe allai fod wedi cyfaddef.
“Ond yn lle hynny, dywedodd gelwydd yn fwriadol.
“A dim ond un achlysur oedd hwnnw. Ar adegau eraill, fel y Llyngesydd Nelson dewisodd beidio gweld. ‘Pa bartio, welais i’r un parti?’
“Mae hynny hefyd yn dwyll bwriadol. Cafodd y senedd ei chamarwain yn fwriadol gan Johnson.”