Bydd capel yn Llanfair Caereinion ar agor brynhawn heddiw (dydd Mawrth, Mai 24) i unrhyw un sy’n dymuno “myfyrio neu weddïo yn dawel” yn dilyn gwrthdrawiad bws yn y dref ddoe.

Mae pedwar plentyn a gyrrwr bws yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog ar ôl i fws daro plant ar Lôn yr Ysgol, wrth Lôn y Neuadd yn Llanfair Caereinion tua 3:25 brynhawn ddoe (dydd Llun, Mai 23).

Bydd Capel Moreia ar agor brynhawn heddiw o 2:30 ymlaen, ac mae croeso i bawb, meddai neges ar dudalen Facebook Gofalaeth Llanfair Caereinion a’r Fro.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod y plant a’r gyrrwr mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, ac fe wnaethon nhw gadarnhau mai plant ysgol gynradd oedd yn rhan o’r digwyddiad.

Derbyniodd un plentyn arall ofal meddygol, a chafodd fynd adref ddoe.

Yn ôl yr heddlu, doedd yna ddim teithwyr ar y bws ac mae’r bws wedi cael ei symud ar gyfer ymchwiliadau fforensig ac mae’r ffordd wedi ailagor.