Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel i fenywod fyw heb ofn.

Heddiw (dydd Mawrth, Mai 24), cyhoeddodd Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, strategaeth newydd i helpu i atal camdriniaeth sy’n wynebu menywod.

Mae’r Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol yn tynnu sylw at chwe nod y bydd y Llywodraeth Cymru’n eu pennu er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Y chwe nod y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ymrwymo iddyn nhw yw:

  • Herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy wella ymwybyddiaeth o’i effaith a’i ganlyniadau
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach
  • Dwyn i gyfrif y rheini sy’n cyflawni camdriniaeth a helpu pobl sy’n ymddwyn yn dreisgar i newid eu hymddygiad
  • Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal
  • Hyfforddi gweithwyr proffesiynol fel eu bod yn gallu rhoi cefnogaeth effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr
  • Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau cymorth o ansawdd uchel, gyda’r adnoddau priodol, ym mha bynnag ran o Gymru y maent yn byw.

Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywed Jane Hutt fod Llywodraeth Cymru eisiau rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a genethod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol yng Nghymru.

“Wrth ymrwymo i hyn, rhaid inni fod yn uchelgeisiol,” meddai.

“Nid yw trais yn erbyn menywod yn anochel.

“Dyna pam rydym wedi gosod chwech o dargedau uchelgeisiol i weithio ar draws pob rhan o gymdeithas i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.”

‘Dull Cymru gyfan’

Er mwyn cyflawni’r chwe nod, mae angen sicrhau “dull Cymru gyfan, sy’n cynnwys y Llywodraeth, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat”, meddai wedyn.

“Mae ein cynllun yn dod â phob rhan o gymdeithas Cymru ynghyd – gan gydweithio i herio a newid arferion, ymddygiadau a diwylliannau. Dyma sydd wrth wraidd cyflawni ein huchelgeisiau.”

Cafodd Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ei sefydlu’n ddiweddar, a’r bwrdd hwnnw fydd yn goruchwylio’r gwaith ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n cyflawni eu haddewidion.

“Byddwn yn lansio ymgyrch i fynd i’r afael ag aflonyddwch ar y stryd ac yn datblygu dull cyffredin i’r heddlu ac asiantaethau eraill sicrhau bod deddfwriaeth bresennol yn cael ei defnyddio yn effeithiol i weithredu’n llym ar aflonyddwch ar y stryd.

“Yn olaf, byddwn yn datblygu hyfforddiant i hyrwyddo perthnasoedd iach ar draws ein cymdeithas.

“Dim ond drwy sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn sefyll ynghyd y gallwn gyflawni’r uchelgeisiau hyn, ac rwy’n erfyn ar bawb heddiw i ymrwymo i atal camdriniaeth, atal ofn, a’n helpu ni i gyflawni Cymru lle gall bawb fyw heb ofn.

“I rai pobol, bydd hyn yn anghyfforddus, oherwydd mae’n herio’r hyn sydd wedi cael ei ystyried yn ‘normal’ am gyhyd.

“Nid fydd atal trais yn erbyn menywod yn hawdd.

“Ond drwy weithredu fel Tîm Cymru gallwn – a byddwn yn – llwyddo.”