Mae ymateb chwyrn wedi bod ar ôl i Radio 2 ddechrau annog pobol yn y Deyrnas Unedig i ganu ‘Sweet Caroline’ i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Fe ddaeth y gân i frig pôl ar raglen frecwast Zoe Ball ar yr orsaf radio i ddod o hyd i gân i’w chanu mewn partïon stryd i ddathlu 70 mlynedd Elizabeth II ar yr orsedd, wrth i’r gyflwynwraig ddatgan ei bod hi’n gân sy’n arwydd o “undod”.

Ond mae nifer sylweddol o bobol wedi tynnu sylw ar Twitter at y ffaith fod y gân wedi cael ei mabwysiadu gan dîm pêl-droed Lloegr adeg yr Ewros y llynedd, gan ddweud nad yw hi, felly, yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig gyfan.

Mae eraill yn tynnu sylw at y ffaith fod y gân yn un o glasuron canwr Americanaidd, Neil Diamond.

Cafodd y gân ei chyfansoddi fel teyrnged i’w wraig, Marcia, ond Caroline yw enw’r ferch yn y gân, a hynny’n gyfeiriad at ferch yr Arlywydd John F Kennedy.

Cafodd y gân ei rhyddhau yn y Deyrnas Unedig yn 1971, ac mae hi’n aml yn cael ei chanu gan gefnogwyr mewn digwyddiadau chwaraeon.

Ymateb

Ond mae pobol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig wedi ymateb yn negyddol iawn i’r awgrym.

Dyma farn dau o Gymru:

Dydy rhai ddim yn hapus am fod y gân wedi’i mabwysiadu gan dimau chwaraeon Lloegr:

Mae eraill yn mynd mor bell â chwestiynu pa mor addas yw’r geiriau yn yr oes sydd ohoni:

Atebwch ein pôl Twitter ar y Jiwbilî: