Mae trefnwyr Gorymdaith Dros Gernyw a fydd yn cael ei chynnal heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 19) yn tybio mai hon fydd yr orymdaith fwyaf iddyn nhw ei threfnu hyd yn hyn.

Yn ôl un o drefnwyr y rali AUOB Kernow yn nhref Kammbronn, byddai hunanlywodraethu yn caniatáu i Gernyw adfywio democratiaeth a mynd i’r afael â materion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy’n eu heffeithio’n ddyddiol.

Perchnogaeth ail dai yw’r her bennaf sy’n wynebu Cernyw ar hyn o bryd, meddai Jago, un o drefnwyr y rali wrth golwg360, wrth ddweud eu bod nhw’n “lladd” pentrefi a threfi yno.

Cafodd AUOB Kernow ei ffurfio ar ddechrau 2021 gyda help Neil Mackay ac AUOB Now yn yr Alban, a chafodd yr orymdaith gyntaf ei threfnu fis Hydref y llynedd.

“Rydyn ni’n trefnu ralïau i’r holl deulu i amlygu materion sy’n wynebu Cernyw, materion economaidd, cymdeithasol, a diwylliannol enfawr sy’n effeithio ein pobol o ddydd i ddydd,” meddai Jago.

“Byddai hunanlywodraethu, rhywbeth y mae gan bobol Cernyw hawl hanesyddol iddo, yn caniatáu i ni adfywio democratiaeth i fynd i’r afael â’r materion hyn, fel digartrefedd, diffyg bwyd, y niwed i’n pentrefi a’n trefi a mannau gwyrdd hanesyddol, diffyg swyddi ystyrlon gyda chyflog byw, a cholledion eraill o ran cefnogaeth i’n hiaith a’n rhaglenni diwylliannol.”

Roedd y rali gyntaf yn “llwyddiant anferth”, meddai Jago, a thrwy gydweithio ag AUOB Now ac AUOB Cymru, maen nhw’n gobeithio adeiladu ar hynny.

Heriau

Perchnogaeth ail dai yw’r prif fater sy’n pryderu Jago ar hyn o bryd, rhywbeth “sy’n lladd trefi a phentrefi dros Gernyw i gyd, yn gwthio prisiau i fyny”, meddai.

“Yn syml, dyw ein pobol yng Nghernyw methu fforddio’r prisiau,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod y prisiau cyfartalog am dŷ yng Nghernyw yn £350,000 ar y funud, sydd, o gymharu â chyflogau pobol Cernyw a’r bobol sy’n dod lawr yma i fyw ac yn gwneud Cernyw yn gartref, dydyn nhw methu mynd ar yr ysgol eiddo.

“Mae e’n amhosib ar y cyflogau maen nhw arnyn nhw.”

Er bod gwaith cloddio am lithiwm wedi dechrau yng Nghernyw, mae Jago’n dweud bod angen dod â diwydiannau mawr yn ôl i’r ardal er mwyn sicrhau cyflogaeth.

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael “effaith anferth” ar Gernyw hefyd, meddai.

“Roedd gennym ni filiynau ar filiynau o arian yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd, ac fe wnaeth y Llywodraeth Geidwadol addo y bysan nhw’n rhoi union yr un faint o arian.

“Ond hyd yn hyn, dim ond tua miliwn o bunnoedd maen nhw wedi’i rhoi i Gernyw, sydd wedi cael effaith anferth ar y gwasanaethau lawr yma.

“Mae pawb yn ei chael hi’n anodd.”

‘Byddwn ni’n cael annibyniaeth’

Bydd cerddorion yn chwarae’n ystod yr orymdaith yn Kammbronn heddiw, a bydd areithiau gan fudiadau a gwleidyddion, gan gynnwys y cynghorydd Loveday Jenkin.

“Fe wnaethon ni wahodd George Eustice, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros yr ardal, ond mae e’n brysur ar y diwrnod,” meddai Jago.

“Rydyn ni wedi cynnig ei gyfarfod, ond hyd yn hyn mae wedi gwrthod ein cynigion.”

Mae’r gefnogaeth tuag at orymdeithiau AUOB Kernow wedi bod yn dda hyd yn hyn, meddai.

“Rydyn ni’n edrych ar yr orymdaith yma fel yr un fwyaf hyd yn hyn, mae’n debyg.

“Mae’r gorymdeithiau’n addas i’r holl deulu, gall unrhyw un ymuno â ni i leisio eu pryderon.

“Mae gennym ni orymdeithiau eraill wedi’u cynllunio eleni, Truru ar Gorffennaf 16 ac ar Hydref 1, rydyn ni wedi cynllunio gorymdaith i gyd-fynd ag AUOB Cymru ac AUOB Now.

“Hwn fydd y symudiad mwyaf o’r holl AUOBau Celtaidd yn gorymdeithio gyda’i gilydd.

“Rydyn ni’n parhau i weithio gyda Kernow Matters To Us, YesKernow a Mebyon Kernow i ddod â mwy o reolaeth i Gernyw, ac, mewn amser, annibyniaeth.

“Y peth cyntaf rydyn ni eisiau lawr yng Nghernyw yw ailsefydlu’r Stannary Parliament, fel bod mwy o reolaeth dros beth sy’n digwydd yma.

“Gydag amser, byddwn ni’n cael ein hannibyniaeth.”

‘Angen i Gernyw allu rheoli ei marchnad dai ei hun er mwyn parhau i fod yn Gernyw’

Cadi Dafydd

Wrth ddadlau dros hunanreolaeth i Gernyw, dywed yr ymgyrchydd Loveday Jenkin nad yw nifer o gyfarwyddiadau San Steffan yn “ffitio Cernyw”