Mae miliynau o Hindwiaid dros y byd wedi bod yn dathlu Holi dros y dyddiau diwethaf, gan gynnwys yng Nghymru.

Er mai ddoe (dydd Gwener, Mawrth 18) roedd yr ŵyl hynafol yn cael ei chynnal, bydd aelodau cymdeithas Hindwaidd Caerdydd yn cynnal digwyddiad i nodi’r ŵyl heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 19).

Dathlu dechrau tymor y gwanwyn yw pwrpas yr ŵyl, a dathlu buddugoliaeth y da dros y drwg.

Caiff yr ŵyl ei hadnabod fel Gŵyl y Gwanwyn, Gŵyl y Cariad, a Gŵyl y Lliwiau hefyd, a hynny am y rheswm bod pobol yn taenu lliwiau llachar dros ei gilydd yn ystod yr ŵyl.

‘Croesawu’r gwanwyn’

Bob blwyddyn, mae’r ŵyl yn cael ei chynnal pan fo’r lleuad yn llawn, ac mae hi’n addas ei bod hi wedi disgyn ychydig cyn dechrau’r gwanwyn, sef fory (dydd Sul, Mawrth 20) eleni, meddai Vimla Patel, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Hindwaidd Cymru.

“Mae Holi yn dathlu dechrau tymor cynhaeafu da’r gwanwyn a dechrau’r gwanwyn gyda chariad tuag at dyfiant,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n nodi dathlu buddugoliaeth y da dros y drwg.”

Mae Holi yn cael ei dathlu fel gŵyl a thraddodiad crefyddol.

“Mae’r ŵyl yn dathlu’r gred yng nghariad duwiol a thragwyddol Radha Krisha – ffurf gyfun ar realiti benywaidd a gwrywaidd Duw drwy Krisha a Radha,” meddai Vimla Patel wedyn.

“Mae Holi hefyd yn nodi buddugoliaeth da dros ddrwg gyda’r fuddugoliaeth dros Lord Vishnu.”

Mae Holi yn ymwneud â dechreuadau newydd, gan groesawu’r gwanwyn a dathlu diwedd y gaeaf.

“Bob blwyddyn, mae gŵyl Holi yn disgyn ar Purnima, neu ddiwrnod pan mae’r lleuad yn llawn. Mae yna hapusrwydd yn y pentrefi hefyd, wrth i ffermwyr wirioni ei bod hi’n ddechrau tymor y cynaeafu,” meddai Vimla Patel wedyn.

Dathliadau

Eglura Vimla Patel fod Choti Holi, yr Holi bach, yn cael ei dathlu ddiwrnod cyn yr ŵyl, pan fydd pobol yn dod ynghyd i berfformio defodau crefyddol o flaen coelcerth.

“Mae dilynwyr yn mynd o amgylch y goelcerth yn cynnig corbys, dêts, a chnau coco i’r tân,” meddai.

“Y diwrnod wedyn yw Dhuleti, ac ar y diwrnod hwnnw mae pobol yn lledaenu lliwiau gwahanol dros ei gilydd a defnyddio gynnau dŵr a balŵns i chwarae a thaflu gwahanol liwiau ar ei gilydd.

“Maen nhw’n dod ynghyd am fwyd a diod hefyd.

“Credir bod y diwrnod hwn yn nodi dathliad marwolaeth y brenin drwg  Hiranyakashipu a’i chwaer Holika.”

‘Amser hapus’

Yng Nghymru, mae gwahanol fudiadau’n trefnu digwyddiad Holi a Dhuleti yng Nghanolfan Hindwaidd Cymru bob blwyddyn.

“Maen nhw’n addoli’r Arglwydd Krishna ac yn rhoi lliwiau ar ei eicon,” meddai Vimla Patel.

Lliwiau Holi ar Krishna a Radha yn y Deml Hindwaidd yng Nghaerdydd

“Maen nhw’n llafarganu bhajans a chaneuon defosiynol. Wedyn maen nhw’n ymgasglu tu allan i’r adeilad, lle bydd coelcerth yn cael ei chynnau.”

Yno y bydd y dilynwyr yn taflu cnau coco, dêts, a chorbys i’r tân, a byddan nhw’n rhoi gwahanol liwiau ar ei gilydd.

“Maen nhw’n rhoi lliwiau ar ei gilydd, yn canu, a dawnsio. Mae teuluoedd yn dod ynghyd a chael swper gyda’i gilydd,” meddai.

“Mae Gŵyl Holi yn amser hapus pan fo pobol yn dod ynghyd, yn cyfarfod a chyfarch ei gilydd, yn lledaenu lliwiau ar ei gilydd, ac yn mwynhau’r diwrnod.”