Bydd arweinwyr Ewropeaidd yn cyfarfod yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (Mawrth 18) i drafod y rhyfel yn Wcráin.
Fe fydd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn annerch Pwyllgor Rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd, gan siarad am Gymru fel cenedl noddfa a’r croeso y bydd ffoaduriaid o Wcráin yn ei gael yng Nghymru.
Fel rhan o’i araith, bydd Mark Drakeford yn amlinellu’r heriau a chyfleoedd i Gymru wrth weithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, sy’n llywodraethu’r berthynas newydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit.
Bydd y pwyllgor yn cynnwys arweinwyr a chynrychiolwyr lleol a rhanbarthol o bob cwr o’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys Llydaw, Fflandrys, Galisia, a Bremen.
‘Adeiladu ar yr undod’
Bydd baneri Cymru ac Wcráin yn hedfan y tu allan i’r Senedd i groesawu’r cynrychiolwyr, a dywedodd Mark Drakeford bod undod ar draws Ewrop yn “rhywbeth mae’n rhaid inni ei ailddatgan nawr yn fwy nag erioed”.
“Yn anffodus, mae’r heriau fydd yn wynebu pob un ohonom yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod yn cael eu hachosi gan ymosodiad diangen, diachos a chreulon Putin ar Wcráin,” meddai’r Prif Weinidog.
“Rydym am barhau i adeiladu ar yr undod a’r cysylltiadau cryf rydym wedi’u sefydlu â rhanbarthau Ewropeaidd dros sawl blwyddyn o gydweithio.
“Yr ysbryd hwnnw o werthoedd cyffredin fydd yn ein cymell i adeiladu Ewrop well, y tu mewn a’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, er budd ein holl ddinasyddion.”