Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd nifer o elusennau sy’n cefnogi pobol mewn profedigaeth yn derbyn cyllid o £3m dros y tair blynedd nesaf.

Daeth y cyhoeddiad gan Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, heddiw (dydd Gwener, Mawrth 18).

Daw hyn ar ôl iddi hi amlinellu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru, sy’n cynnwys ymrwymiad i ddarparu £1m y flwyddyn i elusennau.

Yn dilyn y broses ymgeisio, fe fydd 21 elusen sy’n ymdrin â phrofedigaeth mewn ystod o gyd-destunau gwahanol yn manteisio ar yr arian rhwng 2022 a 2025.

‘Hanfodol bod cymorth ar gael ar unwaith’

Un o’r elusennau fydd yn derbyn cyfran o’r cyllid yw 2Wish, prosiect sy’n sicrhau bod cymorth ar gael i unigolion sy’n dioddef ar ôl marwolaeth sydyn plentyn neu berson ifanc.

“Yn dilyn llwyddiant ein deiseb ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth ar unwaith i deuluoedd, bydd y cyllid hwn yn ein helpu i sicrhau bod ein gwasanaeth ar gael i bawb,” meddai Rhian Mannings, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol yr elusen.

“Mae’n hanfodol, ar adeg mor anodd, bod cymorth ar gael ar unwaith.

“Yma yn 2Wish, rydym wedi bod yn gweithio ers dros ddegawd i gefnogi teuluoedd yng Nghymru sydd wedi colli plentyn.

“Rydym wedi gweld yn uniongyrchol y trawma y mae’r teuluoedd hyn yn mynd drwyddo a’r cymorth sydd ei angen yn fawr arnyn nhw yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn.

“Felly, mae’n wych gweld bod y Gweinidog yn cyhoeddi’r cyllid grant hwn, fel y gallwn ni, ac elusennau fel ni, barhau â’r gwaith hanfodol hwn a chynnig cymorth a chwnsela ar unwaith.”

Prosiect ar y cyd

Fe fydd dwy o’r elusennau, Marie Curie a Diverse Cymru, yn uno i lansio prosiect newydd sbon – Gwasanaeth Cymru Gwybodaeth a Chefnogaeth Profedigaeth – efo’r nod o sicrhau mynediad cyfartal at gymorth i ddelio â phrofedigaeth.

Gan redeg tan fis Mawrth 2024, bwriad y prosiect yw targedu pobol sy’n anodd eu cyrraedd, yn aml o gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a chynnig cefnogaeth arbenigol iddyn nhw.

“Fe wnaeth ymchwil Marie Curie yn 2021 ddarganfod bod rhwystrau i gefnogaeth profedigaeth yn cynnwys diffyg gwybodaeth am sut i gael cefnogaeth, ac anghysur neu amharodrwydd i ofyn am help gan wasanaethau,” meddai Rachel Jones, Cyfarwyddwr Cyswllt Marie Curie yng Nghymru.

“Fydd y prosiect yma yn galluogi Marie Curie i weithio gyda Diverse Cymru i dargedu a chysylltu efo cymunedau sydd yn anodd eu cyrraedd.

“Gellir codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau presennol, yn cynnwys gofal diwedd oes, a darparu hyfforddiant i recriwtio tua 50 gwirfoddolwyr ychwanegol i roi arweiniad a chefnogaeth i’n Llinell Gwybodaeth a Chefnogaeth ac yn ein gwasanaeth ‘Helper’.”

‘Hoffwn dalu teyrnged’ i waith yr elusennau

Wedi cyhoeddi’r elusennau fydd yn derbyn cyllid, dywed Lynne Neagle ei bod hi’n gobeithio gweld yr elusennau yn “darparu rhagor o gysur i’r rheiny sy’n galaru” gyda’r cyllid.

“Mae gwaith pob un o’r 21 sefydliad y dyfarnwyd y cyllid iddyn nhw mor hanfodol a hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith y maen nhw’n ei wneud,” meddai.

“Mae profedigaeth yn effeithio ar bob un ohonom mewn ffyrdd gwahanol, ac mae’n bwysig bod y cyllid o £3 miliwn yn mynd i drawstoriad o sefydliadau a fydd yn defnyddio’r arian yn eu ffyrdd eu hunain i ddarparu cymorth, cyngor a chefnogaeth emosiynol.”

Yr holl elusennau sy’n derbyn cyfran o’r £3m:

  • Sandy Bear Children’s Bereavement Charity
  • Hosbis Tŷ’r Eos
  • Sefydliad Paul Sartori
  • Hosbis Plant Tŷ Hafan
  • Sands (Cymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion)
  • Aberystwyth and District Hospice at Home Volunteers (HAHAV)
  • Mind Canolbarth a Gogledd Powys
  • Hosbisau Plant Tŷ Gobaith a Hope House
  • Platfform
  • Cymorth Iechyd Meddwl BAME
  • Cruse Bereavement Support
  • Marie Curie
  • Diverse Cymru
  • Age Cymru
  • City Hospice, Caerdydd
  • Cymdeithas Ponthafren
  • 2Wish
  • ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái
  • Llamau
  • Sefydliad DPJ
  • Options Pregnancy Crisis and Post Abortion Service (IPAC Options)