Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall ffoaduriaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro parhaus yn Wcráin deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru o hyn ymlaen.

Fe fydd yr holl ffoaduriaid sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin yn cael teithio am ddim ar drenau a bysiau Trafnidiaeth Cymru.

Gall dinasyddion Wcráin hawlio tocyn am ddim ar ôl dangos eu pasbort mewn gorsafoedd, gyda’r gobaith o hwyluso eu profiad o deithio yng Nghymru ar ôl iddyn nhw gael cartref dros dro yma.

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Mark Drakeford ddoe (dydd Iau, 17 Mawrth), mae’n debyg y bydd y cynllun ar agor am o leiaf chwe mis.

‘Cymru’n lle diogel ac yn noddfa’

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ddatgan ei fwriad i groesawu 1,000 o ffoaduriaid yn rhan o gyfnod cyntaf cynllun ffoaduriaid y Deyrnas Unedig.

Mewn llythyr ar y cyd gyda Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, roedd Mark Drakeford yn feirniadol o gynllun nawdd dyngarol y Deyrnas Unedig, gan ddweud “nad oedd yn mynd yn ddigon pell” hyd yn hyn.

“Mae fy neges i bobol Wcráin yn glir; mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi yng Nghymru,” meddai wrth gyhoeddi trafnidiaeth am ddim i bobl Wcráin.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu teithio am ddim i bob ffoadur yn gam arall sy’n dangos bod Cymru’n lle diogel ac yn noddfa i’r rhai sydd angen ein help ni.

“Rwyf hefyd yn falch bod Cymru’n bwriadu bod yn arch-noddwr ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a fydd yn darparu llwybr diogel i bobol ddod i’r Deyrnas Unedig am hyd at dair blynedd.”

Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau tymor hir i sefydlu Cymru fel Cenedl Noddfa gyntaf y byd.

Golyga hynny y byddan nhw’n ehangu ar y croeso sydd yno i unigolion sy’n ffoi o wledydd lle mae rhyfela.

‘Helpu i wneud y byd yn lle gwell’

Roedd Trafnidiaeth Cymru yn ymfalchïo yn y camau sydd wedi eu cymryd i groesawu ffoaduriaid o Wcráin.

“Bydd pob un ohonom ni wedi gweld y golygfeydd brawychus a gofidus o Wcráin yn ystod yr wythnosau diwethaf,” meddai’r Prif Weithredwr James Price.

“Mae’r hyn sy’n digwydd wedi effeithio’n fawr ar lawer ohonom, ac rydym eisiau gwneud yr hyn a allwn ni i gefnogi pobol Wcráin yn eu cyfnod o angen.

“Rydym yn falch o’n henw da am gefnogi grwpiau gyda theithio am ddim, gan gynnwys bod yn rhan o gynllun cenedlaethol Rheilffordd i Loches sy’n cynnig teithio am ddim i bobol sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, a chynnig teithiau trên am ddim i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn ystod 2020.

“Dyma ymestyn ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol ymhellach, a helpu i wneud y byd yn lle gwell.”