Mae pryderon am ddiogelwch wedi eu codi ar ôl i gwmni P&O Ferries benderfynu diswyddo 800 o’u gweithwyr heb rybudd.
Cawson nhw eu disodli gan weithwyr asiantaeth rhatach, ac mae undeb lafur yn amau y bydd hynny’n peryglu llongau oherwydd bod y gweithwyr newydd yn “anghyfarwydd” a’r llongau.
Yn ôl yr undeb Nautilus International, sy’n cynrychioli rhai o’r gweithwyr a gafodd eu diswyddo, mae angen i’r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau (MCA) “sicrhau bod llongau’n ddiogel.”
Dywedodd P&O Ferries y byddai eu mordeithiau yn cael eu gohirio am “yr ychydig ddyddiau nesaf,” wrth iddyn nhw wneud newidiadau o fewn y cwmni.
‘Pryderon difrifol’
Roedd ysgrifennydd cyffredinol Nautilus International, Mark Dickinson, yn cymharu hwylio llongau ar y Sianel fel “cerdded ar draws traffordd chwe lôn yn ystod amseroedd prysur.”
“Mae hon yn sefyllfa gwirioneddol drallodus,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.
“Mae yna bryderon difrifol am ddiogelwch.
“Dyna pam bod y cwmni’n methu ag ailddechrau eu gwasanaethau gyda’r gweithwyr asiantaeth sydd â chyflogau is maen nhw wedi eu recriwtio drwy gwmni International Ferry Management o Malta.
“Rydyn ni wedi ysgrifennu at yr MCA ac rydyn ni’n gobeithio a’n gweddïo y byddan nhw’n gweithredu.”
Ychwanegodd Dickinson bod angen i’r MCA fod yn “hollol glir a hyderus bod y criw newydd, sy’n anghyfarwydd efo’r llongau, y llwybrau, a’r angorfeydd,” yn gallu gweithredu’n ddiogel.
Wrth ymateb, roedd Peter Aylott o Siambr Llongau’r Deyrnas Unedig, sy’n cynrychioli’r diwydiant, yn dweud ei fod yn “hyderus iawn bod P&O wedi rhoi gweithdrefnau mewn lle” i sicrhau bod gweithwyr yn gallu gweithredu’r llongau’n ddiogel.
‘Anodd, ond angenrheidiol’
Cyn eu gohirio, roedd P&O Ferries yn hwylio dros bedwar llwybr gwahanol – Dover i Calais, Hull i Rotterdam, Lerpwl i Ddulyn, ac o Cairnryan yn yr Alban i Larne yng Ngogledd Iwerddon.
Mae protestiadau wedi eu trefnu ym mhorthladdoedd Dover, Lerpwl a Hull, ar ôl i undebau a gwleidyddion gondemnio’r penderfyniad i ddiswyddo cannoedd o weithwyr.
Roedd P&O wedi cyfiawnhau’r penderfyniad drwy ddweud eu bod nhw wedi gwneud colledion o £100 miliwn yn dilyn y pandemig.
Dywedodd y cwmni bod y “penderfyniad yn un anodd, ond yn angenrheidiol,” gan nad oedd y busnes yn “hyfyw” ar ei wedd bresennol.