Mae Laura Ann Jones, Gweinidog Cydraddoldeb Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymddiheuro ar ôl i sylwadau a wnaeth hi ar Facebook wyth mlynedd yn ôl gael eu canfod.
Wrth ymateb i ffrind a anfonodd neges ati yn gofyn: “Saethu plebs?”, ysgrifennodd Laura Ann Jones: “Hoffwn wneud ychydig o saethu chavs, Tom – bechod mawr nad yw hynny’n gyfreithlon.”
Roedd hi hefyd wedi dweud y byddai hi’n hoffi ceisio saethu Ed Milliband, a oedd yn arweinydd y Blaid Lafur ar y pryd, gan ei alw’n “Red Ed”.
Mewn sylw arall, dywedodd: “Dw i’n siŵr y byddwn yn datblygu’n shot berffaith, pe bai gen i’r hen Red Ed i anelu ato.”
Cafodd Laura Ann Jones ei geni yng Nghasnewydd, a’i magu yn Sir Fynwy.
Mae hi’n Aelod o’r Senedd rhanbarthol sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, a dychwelodd i’r Senedd y llynedd yn dilyn marwolaeth Mohammed Asghar AoS.
Cyn hynny, bu’n Aelod Cynulliad dros yr un rhanbarth rhwng 2003 a 2007, ac wedyn bu’n gynghorydd Sir Fynwy.
“Ymddiheuro”
Wrth ymateb, dywedodd datganiad gan Laura Ann Jones: “Rwy’n ymddiheuro am y sylwadau hyn wnes i ar fy nhudalen Facebook bersonol bron i 10 mlynedd yn ôl.
“Nid wyf yn esgusodi’r defnydd o drais ar unrhyw ffurf, ac roedd fy defnydd o iaith yn annerbyniol ac yn amhriodol, ac rwy’n eu difaru’n fawr.
“Nid ydynt yn fy nghynrychioli i, na’m barn, ac mae’n ddrwg iawn gennyf am unrhyw niwed yr wyf wedi achosi.”