Bu Non Tudur mewn cyfarfod yng Nghaernarfon, lle bu AS yr SNP, Mhairi Black yn sôn am ei siom o golli’r refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban ar Fedi 18 y llynedd…
“Ro’n i wir yn teimlo y buasem ni’n ei gwneud hi, jyst abowt,” meddai Mhairi Black. Ond y bleidlais ‘Na’ aeth â hi o drwch blewyn, a hynny am fod ar yr Albanwyr “ofn”, meddai.
“It was horrendous. Ro’n i wedi bod yn ymgyrchu yn ardaloedd tlotaf Glasgow… Paisley. Ro’n i wedi bod dros yr Alban i gyd yn gweld tlodi ofnadwy, yn ymladd, yn trio cael annibyniaeth i’r bobol yma, y bobol reit ar waelod y gasgen oedd yn mynd i ddioddef toriadau’r Ceidwadwyr, ro’n i mas yn ymladd drostyn nhw…
“Wir i chi, roedd o’n afiach… Ar y 19eg, ro’n i’n dal i deimlo fel yna, i’r pwynt lle ro’n i’n teimlo fel gadael. Fuaswn i ddim yn gallu diodde’r Llywodraeth yma. ‘I cannae do it’. Ond ar yr 20fed , y munud y deffrais i, mi feddyliais i ‘no way’. Dw i ddim wedi ymgyrchu am dair blynedd, ddim wedi gweld y tlodi dw i wedi’i weld, ddim wedi gweld y dioddef dw i wedi’i weld, i droi fy nghefn arno. No way.”
Roedd yr SNP yn benderfynol o ganolbwyntio ar wneud ei gorau yn Etholiad Cyffredinol Prydain fis Mai eleni, meddai ond pan awgrymodd rhywun y dylai sefyll ymateb cyntaf Mhairi Black oedd ‘Ah, don’t be daft’.
‘Polisïau cadarn’
“Dechreuais i deimlo’n euog pe na bawn i’n rhoi fy enw ymlaen,” meddai wedyn gan ennyn chwerthin o’r dorf. Dywedodd yr hoffai newid y drefn fel bod pobol gyffredin fel hi ddim yn teimlo’n “daft” o feddwl am fod yn ymgeisydd gwleidyddol.
Roedd hi wedi rhyfeddu pa mor “switched on” y bu’r Albanwyr wedi’r Refferendwm. Mae’n cofio dod wyneb yn wyneb ag un boi mawr brawychus mewn ardal ddifreintiedig draddodiadol Lafur ag yntau’n brasgamu ati, yn pwyntio at ei brest gan ddweud ‘See you? I’m votin’ fer you!’ Y bobol dlotaf yma oedd y rhai mwya’ blin, meddai. “Because they realise they’ve been cheated. They realise that Gordon Brown did not give a toss about them and did not ever intend to give Scotland the powers that was promised to them. They knew they’d been lied to.”
Dyna pryd y dechreuodd yr Albanwyr ddarllen maniffestos y pleidiau, meddai, i weld pa blaid oedd yn cynnig y polisïau gorau. Gobaith sy’n ennill cefnogwyr, meddai, nid negyddiaeth ac nid y gri dros annibyniaeth a enillodd yr Etholiad i’r SNP, ond eu polisïau cadarn. “What’s fantastic about Scotland,” meddai, “party politics doesn’t exist. New Labour hangers-on cannot get to grips with what happened.”
Swigen San Steffan
Ers cael ei hethol yn Aelod Seneddol, mae Mhairi Black wedi rhyfeddu bod San Steffan yn lle mor gaeedig – gyda lle trin gwallt, llyfrgell, tafarn, bwytai – sy’n golygu ei bod hi’n hawdd i wleidyddion bellhau oddi wrth y byd go-iawn. Addawodd y byddai’n rhoi’r gorau iddi unwaith y bydd hi’n dechrau teimlo’n gyffyrddus yno.
Mae gweithwyr yn Senedd San Steffan – y porthorion, gweithwyr y gegin ac ati – wedi dweud wrthi fod awyrgylch y lle wedi ei drawsnewid ers i’r SNP lanio yno. Maen nhw’n yfed yn y Sports and Social gydag Aelodau Plaid Cymru, ymhell oddi wrth stafelloedd crand y Ceidwadwyr a’r Llafurwyr – ac yn sgwrsio gyda’r staff, yn wahanol i’r hen do sydd yno.
Eglurodd ei safbwynt ar annibyniaeth, a’i dyhead am gael gwlad nad oedd yn ddibynnol ar Fformiwla Barnett. Fe fydd cefnogwyr y Deyrnas Unedig yn ei chyhuddo hi a’r SNP o fod ag obsesiwn am annibyniaeth: “We’re obsessed with independence for a reason – because it’s the best way. I find that’s also true of Wales, to be honest,” meddai.
Gellir darllen cyfweliad Gareth Pennant gyda Mhairi Black yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.