Mae Gwlad Groeg wedi gwneud cais am gymorth o gronfa ariannol Ewrop gan ddweud y bydd yn cyflwyno manylion ei chynlluniau ar gyfer diwygiadau economaidd er mwyn diogelu dyfodol y wlad ym mharth yr ewro.
Mae’r llywodraeth wedi gofyn am fenthyciadau dros gyfnod o dair blynedd ac wedi mynnu y bydd diwygiadau economaidd sylweddol yn dilyn hynny.
Mewn llythyr at Fecanwaith Sefydlogrwydd Ewropeaidd (ESM) mae Athen wedi dweud y bydd yn cyflwyno’r mesurau “mor fuan a dechrau’r wythnos nesaf.”
Mae’n cynnwys diwygiadau i drethi a phensiynau a bydd manylion yn cael eu cyhoeddi yfory fan bellaf.
Fe fydd yn rhaid i Wlad Groeg gyflwyno manylion y diwygiadau erbyn nos yfory fel bod modd dod i gytundeb mewn uwchgynhadledd o 28 o arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ddydd Sul.
Os nad oes cytundeb mae banciau’r wlad yn wynebu methdalu.