Xana Doyle
Mae dau ddyn a oedd wedi dwyn car ar ôl bod yn yfed a chymryd cyffuriau wedi cael eu carcharu am achosi marwolaeth merch 19 oed mewn damwain ffordd yng Nghasnewydd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Sakhawat Ali wedi yfed ddwywaith y terfyn cyfreithiol am yrru, ac wedi cymryd cocên a smocio canabis, pan wyrodd y car oddi ar y  ffordd cyn troi drosodd.

Bu farw Xana Doyle, 19, a oedd yn teithio yn y car, yn y ddamwain ym mis Ionawr.

Roedd y car Toyota Avensis wedi cael ei ddwyn gan ewythr Sakhawat Ali.

Clywodd y llys bod Sakhawat Ali, 23, wedi cyfaddef ei fod yn ceisio “dangos ei hun” tra roedd yn gyrru a bod Shabaz Ali, 21, a oedd hefyd yn teithio yn y car, wedi ceisio tynnu ei sylw drwy dynnu’r brêc llaw fel jôc.

Yn dilyn hynny fe darodd y car yn erbyn ochr y pafin gan ei daflu’r cerbyd 10 troedfedd i’r awyr cyn glanio ar ei do.

‘Celwydd’

Fe lwyddodd Sakhawat Ali a Shabaz Ali i ddianc o’r car tra bod merch 15 oed, a oedd hefyd yn y car, a Xana Doyle yn gaeth y tu mewn.

Roedd y ddau wedi dweud “un celwydd ar ôl y llall” wrth i’r heddlu gyrraedd safle’r ddamwain – gan honni eu bod nhw’n cerdded i lawr y stryd pan ddigwyddodd y ddamwain.

Er bod y ddau gefnder wedi pledio’n euog yn ddiweddarach roedden nhw’n parhau i feio ei gilydd.

Dywedodd y barnwr Neil Bidder QC ei fod yn fodlon bod y ddau ddyn wedi bod yn gyfrifol am achosi’r ddamwain.

Roedd Sakhawat Ali wedi pledio’n euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, dwyn car a gyrru tra o dan ddylanwad alcohol. Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd a thri mis o garchar.

Roedd Shabaz Ali wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddwyn car ac o fod mewn cerbyd oedd mewn damwain angheuol. Cafodd ei garcharu am saith mlynedd a thri mis.

Dywedodd mam Xana Doyle, Emma O’Donoghue, bod marwolaeth ei merch wedi torri ei chalon ac wedi dinistrio ei theulu.