George Osborne
Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi Cyllideb sydd, meddai, am fod o fudd i bobol sy’n gweithio.
Fe addawodd George Osborne gyflog byw gorfodol erbyn 2020 i bawb dros 25 oed ond gan rewi llawer o fudd-daliadau am y pedair blynedd nesa’.
Fe fyddai’r “rhai sy’n gweithio ar eu hennill”, meddai – yn hollol groes i honiad arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman, y byddai pobol sy’n gweithio ar eu colled.
Mae’r Gyllideb yn cynnig nifer o addewidion i Gymru hefyd, gan gynnwys mwy o bwerau datganoli ar drethi a chadw at gynlluniau datblygu fel ail M4 yng Ngwent a thrydaneiddio rheilffordd y De.
‘Cyflogau byw’ a ‘ffioedd dysgu’
Dyma rai o’r addewidion:
- ‘Cyflog byw’ pobol dros 25 oed yn codi i £7.20 erbyn mis Ebrill nesaf, gyda’r swm hwnnw’n codi i £9 erbyn 2020 a hwnnw’n gyflog byw gorfodol. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol – yr OBR – yn dweud y gallai hynny gostio cymaint â 60,000 o swyddi.
- Bydd ‘grantiau byw’ myfyrwyr yn Lloegr yn cael eu diddymu erbyn y flwyddyn academaidd 2016-2017. Bydd hyn yn effeithio fwya’ ar fyfyrwyr o gefndiroedd tlawd, ond bydd modd iddyn nhw ymgeisio am fenthyciadau eraill gan dalu’r swm yn ôl pan fyddant yn ennill mwy na £21,000.
- Bydd budd-daliadau’n cael eu rhewi am 4 blynedd, a budd-daliadau pobol o dan 21 oed yn cael eu gwaredu’n llwyr.
- Gall rhieni i blant 3 a 4 oed sy’n gweithio llawn amser hawlio gofal plant am ddim am 30 awr yr wythnos o 2017 ymlaen – y nod yw eu helpu i ddal ati i weithio.
‘Gwario gormod’
Yn ôl George Osborne, mae Prydain yn gwario gormod, yn benthyg gormod ac mae’r lefel isel o gynhyrchiant, yn ei ôl ef “yn arwydd nad y’n ni’n hyfforddi digon, yn adeiladu digon nac yn buddsoddi digon”.
Ond, yn ôl Harriet Harman ar ran y Blaid Lafur, mae’r Gyllideb yn dangos bod sefyllfa economaidd gwledydd Prydain yn parhau’n fregus saith mlynedd wedi dechrau’r argyfwng.
Wrth ymateb i’r Gyllideb dywedodd Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, fod degau o filoedd o weithwyr yng Nghymru yn parhau i fod wedi eu dal mewn economi incwm-isel.
Dywedodd y byddai’r toriadau i gredydau treth yn effeithio tua 120,000 o deuluoedd yng Nghymru.
Er gwaethaf ymgais y Canghellor i godi’r isafswm cyflog a’i ail-enwi yn ‘Gyflog Byw Cenedlaethol’, bydd incwm pobl ar gyflogau isel yn parhau i gael eu taro gan doriadau i gredydau treth, meddai.
‘Cosbi miloedd o deuluoedd’
Dywedodd Jonathan Edwards: “Bydd y toriadau lles o £12bn a gyhoeddwyd yn costio dros £500m y flwyddyn i’r economi Gymreig, gyda thoriadau i gredydau treth yn debygol o gosbi miloedd o deuluoedd mewn gwaith yng Nghymru.
“Yr unig ffordd o adfer hyn yw rhoi stop ar sybsideiddio cyflogau isel, a deddfu i sicrhau fod gweithwyr yn derbyn cyflog byw go iawn – ymrwymiad allweddol i Blaid Cymru.
“Ni fydd pobl yn cael eu twyllo gan eiriau gwag y Canghellor – dim ond isafswm cyflog tipyn uwch yw’r ‘Cyflog Byw Cenedlaethol’ newydd. Nid yw’n gyflog byw go iawn o bell ffordd ac nid yw’n gwneud yn iawn am y difrod a wneir gan y toriadau i’r credydau treth.
“Mae’r cap budd-daliadau rhanbarthol hefyd yn bygwth cynsail peryglus a all arwain at fudd-daliadau rhanbarthol. Byddai hyn yn gorfodi pobl Cymru i gyfrannu’r un faint a phawb arall ond derbyn llai yn y pen draw, gan greu getos o gyflogau isel, diffyg gwaith a diffyg cyfleon.
“Mae hi’n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru roi’r gorau i laesu dwylo ac i gymryd pwerau creu-swyddi o afael y Torïaid yn San Steffan.
“Dim ond bryd hynny y gallwn ni greu Cymru ble fo cyfiawnder cymdeithasol a ffyniant economaidd yn gyfarwydd i bawb.”