Philip Bradbourn
Mae’r Aelod o Senedd Ewrop, Philip Bradbourn, wedi marw yn 63 oed.

Roedd wedi eistedd fel aelod o Senedd Ewrop ar ran y Ceidwadwyr, gan gynrychioli etholwyr Gorllewin Canolbarth Lloegr, er 1999.

Roedd wedi cael gwybod ei fod yn diodde’ o ganser y coluddyn ychydig wedi iddo gael ei ail-ethol ym mis Mai eleni. Bu farw neithiwr.

Yn ôl Ashley Fox, arweinydd yr Aelodau o Senedd Ewrop Ceidwadol, roedd Philip Bradbourn yn gymeriad “unigryw” ac yn un yr oedd gan nifer fawr o bobol feddwl y byd ohono. Er, roedd hefyd yn ddadleuwr brwd a di-ildio, yn mynnu glynu wrth ei bwynt gwleidyddol.

“Roedd ei agwedd ddi-lol tuag at wleidyddiaeth yn ei wneud e’n llais pwerus dros y West Midlands,” meddai Ashley Fox wedyn. “Roedd hefyd yn amddiffynwr brwd o hawliau a buddiannau’r trethdalwr Prydeinig ym Mrwsel ac yn Strasbourg.”