Wyn Roberts (Llun y Ceidwadwyr)
Mae’r gwleidydd Torïaidd sy’n cael y clod am ddatblygiadau pwysig ym maes yr iaith wedi marw.

Fe ddaeth y newyddion fod yr Arlgwydd Roberts o Gonwy – Wyn Roberts gynt – wedi marw neithiwr.

Roedd yn is-weinidog yn y Swyddfa Gymreig trwy gyfnod Margaret Thatcher ond chafodd e erioed ei wneud yn Ysgrifennydd Cymru.

Roedd yn allweddol wrth basio Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1993 a phasio’r ddeddf i sicrhau fod pob disgybl ysgol uwchradd yn gwneud Cymraeg hyd at TGAU.

Ei yrfa

Roedd Wyn Roberts yn fab i weinidog o Sir Fôn a aeth i Ysgol Harrow ac wedyn i Oxbridge.

Fe ddaeth i’r amlwg gynta’ yn ohebydd cynta’r sianel deledu Gymreig TWW, yn aml yn gwneud adroddiadau pryfoclyd a doniol.

Fe ddaeth yn bennaeth rhaglenni yn TWW cyn i’r cwmni ddod i ben ac fe aeth yntau wedyn yn ymgeisydd i’r Ceidwadwyr, gan gipio Conwy i’r Ceidwadwyr yn 1970 a dal y sedd tan 1997.

Bryd hynny yr aeth i Dŷ’r Arglwyddi. Roedd wedi cael ei wneud yn farchog yn 1990.

Yr Ysgrifennydd na fu

Heddiw fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ei fod yn methu â deall pam nad oedd Wyn Roberts wedi cael y swydd ei hun.

Tua diwedd ei yrfa, roedd cyfres o wleidyddion o Loegr wedi eu penodi i’r swydd, gan gynnwys John Redwood.

Roedd Wyn Roberts wedi bod yn llefarydd ar Gymru pan oedd y Ceidwadwyr yn yr wrthblaid rhwng 1974 ac 1979.

“Roedd ganddo ymennydd  ardderchog,” meddai David Jones ar Radio Wales. “Roedd yn wleidydd cyfrwys, a dw i’n defnyddio’r term i roi clod iddo.

“Alla’ i ddim deall pam na chafodd ei wneud yn Ysgrifennydd Cymru.”