Diffoddwr (o wefan Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru)
Mae un o uwch swyddogion gwasanaethau tân Cymru wedi galw am ddiwedd cyflym i’r anghydfod rhwng diffoddwyr a’r Llywodraeth.

Doedd dim digwyddiadau mawr yng Nghymru yn ystod streic bedair awr gan yr FBU – undeb y diffoddwyr – neithiwr ond maen nhw’n bwriadu streicio am bedair awr arall heddiw.

“Ein gobaith yw, rhwng yr FBU a’r Llywodraeth, y bydd yr anghydfod yma’n gallu dod i ben yn gyflym ac yn ddiogel mewn ffordd dderbyniol i bawb,” meddai Rod Hammerton, Dirprwy Brif Swyddog Tân y gwasanaeth yn ne Cymru.

Llai o alwadau

Roedd canran uchel o’r diffoddwyr wedi mynd ar streic yn y De, meddai, ond roedd criwiau wrth gefn wedi llwyddo i ddelio gyda’r mân ddigwyddiadau a gododd.

Yn y cyfamser, roedd penaethiaid y gwasanaeth yng ngogledd Cymru’n diolch i’r cyhoedd am wrando ar alwadau i fod yn arbennig o ofalus yn ystod y streic.

Ar draws Cymru a Lloegr, roedd yna lai o alwadau brys nag arfer ar nos Wener.

Agwedd yn caledu

Mae’r undeb yn dweud bod eu hagwedd wedi caledu ar ôl y newyddion am y bwriad i godi cyflogau Aelodau Seneddol o 11%.

Maen nhw’n protestio yn erbyn newid yn oed ymddeol diffoddwyr tân ac yn eu trefniadau pensiwn a fydd, medden nhw, yn golygu talu mwy i mewn a chael llai allan.

“Does yr un diffoddwr tân eisiau streicio, ond allwn ni ddim gadael i gynigion gwirion y Llywodraeth sefyll, na’u rhagrith noeth,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinolyr FBU, Matt Wrack.

“Byddwn yn parhau i ymladd nes y bydd y Llywodraeth yng weld synnwyr ac yn dod yn ôl i drafod.”

Ateb y llywodraeth

Mae’r gweinidog yn Llywodraeth Prydain sy’n gyfrifol am y gwasanaeth tân wedi condemnio’r undeb am gyhoeddi streiciau tra oedd y ddwy ochr yn trafod.

Yn ôl Brendan Lewis, mae gan y diffoddwyr well amodau pensiwn na llawer o weithwyr eraill yn y sector cyhoeddus.