Fe gafodd cerddwr ei ladd mewn gwrthdrawiad gyda char ym Mhontypridd.
Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru neithiwr fod y dyn lleol 49 oed wedi marw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant
Ysbyty Brenhinol Morgannwg lle bu'r dyn farw (Llun o wefan y Bwrdd Iechyd)
.
Roedd y gwrthdrawiad wedi digwydd ychydig funudau wedi hanner dydd ar Heol Gelliwastad.
Roedd y dyn yn cerdded pan gafodd ei daro gan gar stad Peugeot 406 arian.
Mae’r heddlu wedi gofyn am dystion i’r ddamwain neu i symudiadau’r dyn a’r car yn union cyn hynny.