Y diweddar Jang Song Thaek
Mae Gogledd Corea wedi datgan bod ewyrthr i’r arlywydd Kim Jong Un wedi cael ei ddienyddio am fradychu’r llywodraeth.

Dim ond ychydig o ddyddiau yn ôl roedd Gogledd Corea wedi cyhuddo Jang Song Thaek o fod yn ferchetwr a oedd yn gamblo a chymryd cyffuriau.

Mae honiadau – sydd heb eu cadarnhau – ei fod wedi ei ddienyddio mewn modd a gafodd ei ddisgrifio gan y Tŷ Gwyn yn Washington fel “enghraifft arall o greulondeb y gyfundrefn yng Ngogledd Corea”.

Gwaeth na chi

Mae cyfryngau Gogledd Corea, sy’n cael eu rheoli gan Arlywydd y wlad,  wedi dweud bod  Jang Song Thaek yn “fradwr i’r genedl” a’i fod yn waeth na chi yn eu tyb nhw.

Roedd Jan Song Thaek yn ffigwr adnabyddus ymysg trigolion Gogledd Corea ac roedd eisioes wedi cael ei gysidro yn ddirprwy ffyddlon i’w nai yr Arlywydd.

Ond yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol y wlad roedd Jang wedi gweld marwolaeth tad Kim Jong Un yn Rhagfyr 2011 fel cyfle i herio ei nai a chipio pŵer. Heddiw ar strydoedd Pyongyang roedd pobl yn casglu o amgylch hysbysfwrdd newyddion i ddarllen am dynged y cyn-ffigwr awdurdodol.

Dywedodd Kim Un Song, sy’n ddoctor mewn ysbyty, ei bod wedi dychryn o glywed y newyddion, ond ei bod yn cefnogi’r dienyddiad.

“Mae genym ffydd ac ymddurieidolaeth yn Kim Jong Un,” meddai.

“Mae’n beth da ei fod wedi cael ei ddienyddio.”